Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y gwahaniaethau a amlygwyd yn y Senedd, yn cael eu cynhyrfu gan y gwahaniaethau yn y Gymanfa Duwinyddion yn Westminster. Eisteddodd y Gymanfa hon am ddeng mlynedd, sef o 1643 i 1653. Yr oedd Presbyteriaid, Anibynwyr, ac Esgobyddion, yn aelodau o ohoni. Ychydig o ddyddor—deb a gymerodd yr Esgobyddion ynddi. Nid felly yr Anibynwyr. Gwnaethant i fyny mewn zel a gallu am fychandra eu rhif—canys Presbyteriaid oedd mwyafrif yr aelodau.

Ond pan feddai'r Anibynwyr ddynion fel Thomas Goodwin, Nye, Burroughes, Bridge, Carter, Caryl, Phillips, a'r cyffelyb, gellir bod yn sicr na ddioddefai'r achos gam oddiar eu dwylaw. Yn erbyn dynion fel y rhai hyn, y sonia Baillie am gael presenoldeb y fyddin Bresbyteraidd i gynorthwyo rhesymau'r duwinyddion Presbyteraidd.[1] Mewn atebiad i'r cudd-fygythiad ynghylch y fyddin, y cyhoeddodd yr Anibynwyr uchod yr "Adroddiad Amddiffynnol" o'u safle. Mae y mynegiad hanesyddol hwn mor bwysig, ac yn gosod allan mewn dull mor glir, safle'r Anibynwyr ar rai o gwestiynau dyrrus y dydd, fel y rhoddir dyfyniad ohono yma :—

"Yr ydym gan mwyaf oll wedi bod yn y weinidogaeth yn Eglwys Loegr, ac, wedi myned yn alltudion gwirfoddol fel y caffem Iawn ryddid i addoli, yr ydym wedi bod mewn safle i edrych yn ddiduedd ar holl gwestiwn trefn Eglwysig. Yr ydym yn parchu yr Eglwysi Diwygiedig, ac nid ydym yn eu hystyried yn anfri ar y rhai hynny, i dybied nad yw y cam cyntaf a gymerwyd ganddynt yng nghyfeiriad rhyddid, wedi bod y fath ag nad yw yn gadael lle iddynt wella a myned rhagddynt ymhellach. Mae dynion da wedi dysgu rhywbeth er dyddiau Luther a Calvin; ac yr ydym ni wedi beiddio tybied y gall fod wedi ei roddi ini i ddysgu rhywbeth yn ychwaneg. Nid ydym yn gaeth-ddilynwyr i unrhyw blaid; boddlon ydym i ddysgu gan bawb neu rywrai, gan nad pa gymaint y gwahaniaethant oddiwrthym. Ni ddaeth erioed i'n calonnau i wadu nas gall cynulleidfaocdd plwyfol Lloegr fod yn wir Eglwysi, a'u gweinidogaeth yn wir weinidogaeth; nac ychwaith i wrthod cymundeb ag Eglwysi, ai cartrefol ai tramor, nad ydynt, yn ein barn ni, yn hollol bur. Estynnwyd y caredigrwydd brawdol hwn, yn yr hwn yr ydym bob amser wedi byw, ini yng ngwlad ein halltudiaeth, lle y caniataodd yr ynadon

  1. Baillie's Letters, i. 401, et seq.