ini, ar oriau neillduol ar Ddydd yr Arglwydd, i ddefnyddio eu heglwysi, a gelwid ein cynulleidfaoedd ynghyd yno gan gloch yr Eglwys; a sicrhawyd ini drwy orchymyn cyhoeddus, nid yn unig win y Cymun, ond cynhaliaeth haelionus i'n gweinidogion. Yn ein haddoliad, offrymem weddi rydd yn unig, ac nid fel y gwneir yn Lloegr, gweddi rydd gyda ffurf-wasanaeth. Nid yw ein gweinidogion, megys eiddo'r holl Eglwysi Diwygiedig, yn ddim amgen na bugeiliaid (presbyters) syml. ysbrydol yw ein disgyblaeth; a thra y gorwedd y ddisgyblaeth yn gyfan-gwbl yn nwylaw'r gynulleidfa a'i swyddogion, nid yw yn gwneud y gynulleidfa yn anibynnol yn yr ystyr o'i chau allan o gyfrifoldeb i'r ynad, mewn cysylltiadau gwladol, nac yn ein rhyddhau oddiwrth rybudd brawdol, ac o bosibl gerydd a diarddeliad oddiar ddwylaw Eglwysi eraill."
Cafwyd dadleuon maith, ac weithiau poethlyd, yn y Gymanfa. Mynnai'r Presbyteriaid sefydlu Presbyteriaeth yn y tir am ei bod, meddent, yn gorffwys ar hawl dwyfol. Dyma hen ddadl Laud dros esgobyddiaeth, a Iago dros y brenin. Atebodd yr Anibynwyr, os hawlid fod cyfundrefn yn gorffwys ar hawl dwyfol am ei bod yn seiliedig ar ddysgeidiaeth yr Ysgrythyrau, yna eu bod hwy yn hawlio mai Cynulleidfaoliaeth oedd y gyfundrefn honno; eithr boddlonent hwy ar gael eu goddef ochr yn ochr & Phresbyteriaeth, ac ni ddymunent ddisodli honno. Pan ddygwyd y mater gerbron y Senedd i'w benderfynnu, dyfarnodd honno fod Presbyteriaeth yn unol â Gair Duw, ac y dylai gael ei sefydlu,—ond gomeddodd ei chydnabod fel yn gorffwys ar hawl dwyfol. Canlynnwyd hyn gan ddadleuon cyffelyb ar ddysgyblaeth Eglwysig, a goddefiad. Safai'r pleidiau mor bell a'r pegynnau oddiwrth eu gilydd ar y cwestiynnau hyn. Y diwedd fu i'r Presbyteriaid amlygu yn groew na chaniateid goddefiad i'r Anibynwyr, gan y golygai hynny benrhyddid i bawb. Ymosodid ar yr Anibynwyr o Loegr a'r Ysgotland. Atebodd un o'r Anibynwyr, Jeremiah Burroughes, fod yr enwad hwnnw yn benderfynnol o ddioddef, neu os byddai raid, i adael gwlad eu genedigaeth, yn hytrach na rhoi i fyny yr egwyddorion a gredent ynddynt.
Ond os oedd chwerwder y Presbyteriaid yn cynhyddu yn y Gymanfa a'r Senedd, yr oedd grym a rhifedi'r Anibynwyr yn cynhyddu yn y fyddin. Nid awn yn awr i olrhain yr