Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achosion o hynny, ond boddlonwn ar nodi'r ffaith. Dygodd y Senedd Bresbyteraidd ei hun i wrthdarawiad a'r Fyddin Anibynnol, a'r Fyddin a orfu. O hynny allan llywodraethwyd y wlad gan y Weriniaeth-gyda Cromwell yn ben arni. Caled oedd i'r Presbyteriaid wingo yn erbyn y symbylau hyn, ond gwingo a wnaethant. Ceisiodd y Senedd, oedd yn awr yn nwylaw'r Anibynwyr, estyn i'r clerigwyr Presbyteraidd bob tynerwch ac ystyriaeth. Sefydlwyd goddefiad crefyddol ar seiliau digon llydan i gynnwys "pawb ar a broffesant ffydd yn Nuw, drwy Iesu Grist, gan nad pa gymaint a wahaniaethant mewn barn o berthynas i athrawiaeth, disgyblaeth, a ffurf-wasanaeth." Ymgymerwyd y cai pawb o'r cyfryw eu "hamddiffyn ym mhroffes eu ffydd ac ymarferiad eu crefydd, yn ol eu cydwybodau, ar yr amod na fyddai iddynt gam-ddefnyddio'r rhyddid hwnnw er niwed i eraill, neu i aflonyddu ar yr heddwch." Swyddogion y fyddin a wnaethant y mynegiad hwn gyntaf; yna gwnaeth Cromwell a'i ganlynwyr yr un peth.[1]

Ond ni fynnai'r Presbyteriaid ddygymod â chyfundrefn o oddefiad i eraill. Fel y gwnaeth Iago a'r esgobaethwyr, hauasant wynt anoddefiad i eraill, medasant, ymhen ychydig flynyddoedd wedyn, gorwynt erlid iddynt eu hunain. Gwell oedd ganddynt gael Siarl II. yn frenin arnynt, na gadael i'r Anibynwyr reoli yn y deyrnas. Nid am eu bod yn hoffi esgobyddiaeth, ond am eu bod yn credu fod Presbyteriaid yr Ysgotland wedi troi Siarl i'w crefydd hwy; a thybient pe caent frenin, a Senedd, ac Eglwys, oll yn Bresbyteraidd, y buasai'r mil-flwyddiant wedi gwawrio arnynt. Nid oedd eu llygaid eto wedi cael eu hagoryd i hawliau cydwybod neb ond yr eiddynt hwy eu hunain. Credent y buasai'r goddefiad cyffredinol, a fynnai Cromwell ei sefydlu yn y wlad, yn profi yn niweidiol i wir grefydd.[2] Gwrthododd cynhadledd, yn cynnwys triugain o weinidogion Presbyteraidd, arwyddo'r Cytundeb oedd

  1. "The Agreement of the People," a "The Instrument of Government."
  2. Cymharent oddefiad i wenwyn gwasgaredig, a galwent ef yn "llofruddiaeth enaid." Gwel Neal. Hist. Purits. iii. 276, 328; iv. 8; Nonconformist's Plea, 4; Evelyn's Diary ii. amryw; Baxter's Life, S6, &c., &c.