Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Baal; canys cawn fod y Tywysog Rupert tanllyd, cyferdder y brenin, gyda'i wyr meirch, wedi gorymdeithio drwy rannau o Gymru, gan anrheithio'r ffordd yr elai. Amlwg yw nas gwnai hynny i gyfeillion y brenin;—a'r unig gasgliad posibl yw fod rhai hwnt ac yma, yn adnabyddus fel Ymneillduwyr—ac o ganlyniad fel pleidwyr y Senedd—ac mai arnynt hwy y syrthiodd llid a dialedd Rupert a'i wyr. Yng Nghymru y ceisiodd Siarl anffodus loches pan yn ffoi rhag y gelyn. Pan oedd Lloegr oll megis wedi cael ei hennill gan y Gwladgarwyr, ac yr ymddanghosai nad oedd neb o fewn y tir a feiddiai godi llais na llaw o blaid y brenin, torrodd ail ryfel allan—ac yng Nghymru y cychwynnodd. Tri o filwriaid byddin Cromwell, sef Laugharn, Powell, a Poyer, a wrthryfelasant, gan godi eu lluman yng Nghymru, a chasglu o'u cwmpas lu mawr o bleidwyr y frenhiniaeth. Aeth y Deheubarth yn wenfflam, a'r Gogledd yn goelcerth. Ymddanghosai pethau mor ddifrifol, fel y tybiodd y Senedd nad oedd neb ond Cromwell ei hun—na chollodd yr un frwydr erioed—a allai achub y deyrnas rhag y perygl.[1] Felly daeth Cromwell i Gymru. Ymladdwyd brwydr ffyrnig yn St. Fagan's ger Caerdydd y frwydr olaf ar faes agored a ymladdwyd yng Nghymru. Mor ffyrnig oedd y brwydro, a chynifer y lladdedigion, nes y cochwyd yr Afon Lai bob cam o'i thaith oddi yno ymlaen. A fynner tystiolaeth bellach na hyn? Atebed, ynte, furiau dadfeiliedig cestyll Cymru, a syrthiasant y pryd hwnnw o flaen cyflegrau Cromwell a'i fyddin o Ymneillduwyr.

Tra teimlad Cymru felly mor gryf o blaid y brenin, rhwydd deall na roddai'r bobl wrandawiad parod i'r ychydig Ymneillduwyr a geid yn y wlad. A'r ychydig oedd yma y pryd hwnnw, cynulleidfaoedd wedi ymneillduo o'r Eglwys oeddent, am fod eu hoffeiriaid wedi cael eu hatal i bregethu am wrthod o honynt ddarllen Deddf Llyfr y Chwareuon o'u pwlpudau ar y Sul. Pedwar o glerigwyr blaenllaw a geir yn dioddef felly, sef William Wroth o Lanfaches, William Erbury, a'i gurad

  1. Rapin, vol. ii., p. 550.