Nghymru yn y cyfnod hwnnw. Gadewch ini ddadansoddi y ffeithiau hyn, er gweled beth a gawn ynddynt.
1. Erledigaeth yr Esgobion yn cael ei ganlyn yn 1639, 1640, a 1641, gan blaniad Eglwysi Llanfaches, Mynyddislwyn, Caerdydd, Mynyddbach, ac Abertawe.
II. Rhoddwyd prawf ar yr egwyddor wirfoddol, gyda chefnogaeth ac amddiffyn yr awdurdod gwladol tu cefn iddi, yn 1641. Canlynwyd hyn gan sefydliad Eglwysi Merthyr (Ynysgau), a Phentretygwyn a Chefnarthen, yn 1642.
III. Gwaddolwyd crefydd yng Nghymru gan y Senedd yn 1645 a 1646, drwy benodi Walter Cradoc a dau gydymaith, yn weinidogion teithiol cyflogedig yn y De a'r Gogledd. Yn 1646 plannwyd Eglwysi Llanbrynmair, Llanfyllin, a Gwrecsam yn y Gogledd, a Chastellnedd a Throedrhiwdalar yn y De.
IV. Sefydlwyd crefydd yn gyffredinol drwy Gymru gan y ddeddf a basiwyd yn 1649. (Gwel tudal. 78). Plannwyd Eglwys y Bedyddwyr yn Ilston yn 1649 gan John Myles—ac yntau yn un o'r cyflogedigion Seneddol. Drwy ei ymdrechion ef a'i gydweithwyr, plannwyd Eglwysi'r Gelli yn 1649, Llanigon, Llanharan, a Chaerfyrddin yn 1650; a'r un flwyddyn Eglwys Sir Faesyfed (Rock, Dolau, a Pentre), ac i hon yr oedd Hugh Evans, a gyflogid ac a delid gan y Senedd, yn weinidog. Yn 1652 ffurfiwyd Eglwys Llanwennarth—yn benaf eto, debygir, drwy offerynoliaeth John Myles. O Eglwysi Anibynnol, sefydlwyd Capel Isaac, Henllan, Llanedi, a Phencader, yn 1650, a Chasnewydd, a Phwllheli, yn 1652.
V. Aeth y ddeddf i Efengyleiddio Cymru yn ddirym yn 1653. Yr unig Eglwysi a blannwyd wedi hynny cyn adferiad Siarl II., oedd Abergorlech a Nantyffin, a Llandysil (1655).
Na chamddealler yr hyn ddywedir yma.
Nid ydys yn awgrymu fod y dynion a blannodd yr Eglwysi yn y dosbarthiadau III. a IV. uchod, yn amddifad o zel a chariad, nac yn cael eu cymhell yn unig gan y gyflog. Mae eu holl hanes ar ol hyn yn profi yn wahanol. Ni fu, er engraifft, erioed ddynion mwy cenhadol eu hysbryd, mwy ymdrechgar o blaid y ffydd, mwy parod i ddioddef dros y gwirionedd, na John Myles a Vavasor Powel—heb enwi neb o'r lleill. Gwawdir llawer o'r dynion da hyn gan ddynion fel Alexander Griffith yn ei ysgrifau athrodus, a Dr. Walker a edrychai ar eu gwaith