drwy wydrau rhagfarn. Cyhuddir hwynt o fod yn wyr o safle gyffredin, yn grefftwyr a gweithwyr, yn wyr anllythyrennog, &c. Ond pan eir i chwilio yn fanwl ceir fod y mwyafrif o honynt, fel yn wir ymron yr oll o'r Tadau Ymneillduol yn yr oes a'r ganrif honno, yn wyr dysgedig, wedi cael addysg yn y prifysgolion, ac wedi ymgyflwyno o lwyrfryd calon i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Y cwbl a ellir ei ddwyn yn eu herbyn yw eu bod wedi derbyn tâl gan y Wladwriaeth am bregethu'r Efengyl. Ond dylid cofio mai newyddian yn y ffydd oedd Cymru ac nad oedd eto wedi dod i'r goleuni a lewyrchodd arni ar ol hynny. Eithr a chaniatau hyn oll, erys y ffeithiau hyn:—(1) O dan erledigaeth plannwyd pump (neu a chyfrif yr Olchon, chwech) o Eglwysi Ymneillduol.
(2) O dan gefnogaeth y Senedd, ond ar yr egwyddor wirfoddol, plannwyd pedair o Eglwysi.
(3) O dan waddoliad a sefydliad, plannwyd deunaw.
Nid ydys yn cynnyg penderfynnu yma i ba raddau y gweithredai deddf achos ac effaith yn y pethau hyn. Boddlonir yma. ar nodi'r ffeithiau yn syml. Ond mae'n amlwg oddiwrth y ffeithiau hyn, nad oedd Ymneillduaeth eto yn boblogaidd yn y wlad.
Yng ngoleuni gwell y dyddiau hyn gwelwn mai camgymeriad mawr oedd cysylltu Lledaeniad yr Efengyl gyd â'r Wladwriaeth drwy rwymyn deddf a gwaddol. Gwelai ychydig bersonau y perygl y pryd hwnnw. Mynegwyd eisoes am benderfyniad Eglwys Bedyddwyr Llanwennarth. Cododd William Erbury ei lais yr un mor groew yn erbyn yr arferiad. Ond nid oedd llais Llanwennarth a Chaerdydd ond megys llef un yn llefain yn y diffaethwch. Ni thalwyd sylw iddynt. Aeth Eglwysi'r Bedyddwyr ymlaen fel cynt. Ni wahoddwyd William Erbury i ymgynghoriadau yr Anibynwyr.[1] Aeth y ddau enwad ymlaen fel cynt i dderbyn hynny a gaent oddiar fwrdd y Wladwriaeth.
Am gyflwr Cymru yn y cyfnod hwn—yr oedd corff y genedl mor dywyll ac ofergoelus yn 1639 ag oeddent yn 1558, pan
- ↑ A Call to the Churches, or a Packet of Letters for the Pastors of Wales. No. 6. Wm. Erbury, Aug., 1652.