fu farw Mari Waedlyd. Danghoswyd eisoes mor eithafol wrth-Ymneillduol oedd Cymru pan gychwynnodd y rhyfel cartrefol. Prin yr oedd y cwrs a fabwysiadwyd gan y Senedd, sef troi allan nifer o glerigwyr—er mai dynion anheilwng oedd llawer o honynt yn tueddu i ennill serch y wlad at y gweinidogion newydd. Ac er nad oedd yr ymraniadau rhwng yr Anibynwyr a'r Presbyteriaid, oedd mor amlwg a niweidiol yn Lloegr, yn cario cyffelyb effaith yng Nghymru—am y rheswm syml na chafodd Presbyteriaeth fel cyfundrefn erioed wreiddyn yn y Dywysogaeth—eto i gyd yr oedd yma elfennau dadgyfaniad. Er fod ambell un, hyd yn oed mor selog a'r Archesgob Williams, wedi troi cefn ar y brenin, ac, o leiaf yn ymddangosiadol, wedi bwrw eu coelbren gyda'r Senedd, eto yr oedd digon o'r hen ysbryd yn aros i fanteisio ar bob cyfle i ddrygu'r Senedd a'i chynrychiolwyr cyflogedig yn y wlad. Dywed y Cymro enwog, Dr. John Owen, mewn pregeth a draddodwyd ganddo o flaen y Senedd, yn 1656, fod y pleidiau yn eithafol yng Nghymru. Dyma ddywed:—
"Na thybiwch allan o le fy mod yn galw eich sylw at un rhan o'r deyrnas yn enwedig—mae esiampl y saint yn caniatau i ni dalu sylw arbennig i'n cenedl ein hunain, ein ceraint yn ol y cnawd. Am Gymru yr wyf yn siarad, lle y mae, yn anffodus, ym mron pawb dynion yn rhedeg i eithafion, wedi niweidio llwydd a chynnydd yr Efengyl pan y gobeithiem am bethau gwell. Mae rhai eto yn selog dros draddodiadau'r Tadau; ac ni foddlona dim hwynt ymron ond yr hen ddull o ddarllenwyr begeraidd ymhob plwyf. Mae eraill, drachefn, o zêl dda, efallai, wedi gyrru'r bobl a'u hangerddoldeb tu hwnt i'w hegwyddorion,—ac weithiau, efallai, tu hwnt i'r gwirionedd; ac fel y dywedodd Jacob, mae gyrru y gwartheg blithion a'r plant yn rhy chwyrn wedi ymron difetha'r holl braidd. Rhwng achwyniadau o'r naill du a'r llall—rhwng zèl gam—arweiniol a ffurfioldeb―mae yr holl adeilad ymron cael ei fwrw i'r llawr; ac nid oes nemawr neb yn gofalu am fuddiannau Seion fel y cyfryw.13
Dyna eiriau cryfion, gan un a wyddai am gyflwr y wlad. Yr oedd ysbryd y Diwygiwr yn gryf yn John Owen, ac yngwaed
12 The Weekly Intelligencer, Ebrill 30, 1646.
13 Gweithiau Dr. Owen, cyf viii., tudal. 452. Q ei deulu, a gweithiodd allan mewn modd ymarferol ac effeithiol ymhen ychydig flynyddau wedyn yn ei nai, Hugh Owen, Bronyclydwr. Flwyddyn cyn traddodi'r bregeth hon yr oedd rhwyg alaethus wedi cymeryd lle ymhlith y Diwygwyr Swydd—ogol yn y Dywysogaeth. Methodd Paul a Barnabas Cymru, Vavasor Powel a Walter Cradoc, gydolygu ar gwestiwn gwleidyddol. Yr oedd y blaenaf wedi dadblygu i fod yn wrthwynebydd anghymodlawn, a'r llall yn gefnogydd cynnes, i wladlywiaeth Cromwell. Tynnodd Powel allan ddeiseb neu wrthdystiad yn erbyn Cromwell, ac arwyddwyd hi gan dri-chant o'i gefnogwyr yng Nghymru. Tynnodd Cradoc yntau bapur allan i gefnogi Cromwell, ac arwyddwyd hwnnw gan dros saith gant a hanner o bersonau, yn cynnwys yn ymarferol yr oll o'r pregethwyr yng Nghymru, yn Anibynwyr a Bedyddwyr. Cydnebydd Dr. Rees, Abertawe—yr hwn nis gellir ei gyhuddo o leihau dim ar nerth na gwerth Anghydffurfiaeth foreuol—nad oedd ond gweddill bychan yn aros yn Siroedd Cymru i ddwyn tystiolaeth yn erbyn drygioni'r oes. Yng ngwyneb ffeithiau fel hyn, prin y gellir desgrifio'r cyfnod hwn fel haf-ddydd Ymneillduaeth yng Nghymru.
Ac eto nid gaeaf oedd ychwaith—canys yr oedd yr hauwyr ar y maes, ac mewn ambell i fan gellid canfod yr egin megys yn blaendarddu, ac yn cynnwys eisoes addewid am y cynhaeaf mawr oedd i ganlyn.
Ynglŷn â hanes John Myles (gwel tudal. 112) cyfyd cwestiwn o gryn bwysigrwydd. Mae yn gwestiwn mor ddyrrus ag yw o bwysig. Trwyddo cyfyd holl gwestiwn perthynnas Ymneillduwyr Cymru a Llywodraeth Cromwell. Cofier fod y rhai a gyfrifid gynt yn Anghydffurfwyr, yn awr yn llywodraethu; eu gweinidogion yn pregethu yn yr Eglwysi plwyfol, ac yn dal y bywiolaethau Eglwysig. Nid oedd dim
14 Dywed Thurloe fod yr enwau ar wrthdystiad Vavasor Powel, oll yn yr un lawysgrifen, a bod llawer wedi cael eu gosod heb ganiatad, tra roedd y rhai oedd a'u henwau wrth ateb Cradoc wedi torri eu henwau eu hunain.—Thurloe's State Papers, vol. iv., p. 505. drwy wydrau rhagfarn. Cyhuddir hwynt o fod yn wyr o safle gyffredin, yn grefftwyr a gweithwyr, yn wyr anllythyrennog, &c. Ond pan eir i chwilio yn fanwl ceir fod y mwyafrif o honynt, fel yn wir ymron yr oll o'r Tadau Ymneillduol yn yr oes a'r ganrif honno, yn wyr dysgedig, wedi cael addysg yn y prifysgolion, ac wedi ymgyflwyno o lwyrfryd calon i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Y cwbl a ellir ei ddwyn yn eu herbyn yw eu bod wedi derbyn tâl gan y Wladwriaeth am bregethu'r Efengyl. Ond dylid cofio mai newyddian yn y ffydd oedd Cymru ac nad oedd eto wedi dod i'r goleuni a lewyrchodd arni ar ol hynny. Eithr a chaniatau hyn oll, erys y ffeithiau hyn:—(1) O dan erledigaeth plannwyd pump (neu a chyfrif yr Olchon, chwech) o Eglwysi Ymneillduol.
(2) O dan gefnogaeth y Senedd, ond ar yr egwyddor wirfoddol, plannwyd pedair o Eglwysi.
(3) O dan waddoliad a sefydliad, plannwyd deunaw.
Nid ydys yn cynnyg penderfynnu yma i ba raddau y gweithredai deddf achos ac effaith yn y pethau hyn. Boddlonir yma. ar nodi'r ffeithiau yn syml. Ond mae'n amlwg oddiwrth y ffeithiau hyn, nad oedd Ymneillduaeth eto yn boblogaidd yn y wlad.
Yng ngoleuni gwell y dyddiau hyn gwelwn mai camgymeriad mawr oedd cysylltu Lledaeniad yr Efengyl gyd â'r Wladwriaeth drwy rwymyn deddf a gwaddol. Gwelai ychydig bersonau y perygl y pryd hwnnw. Mynegwyd eisoes am benderfyniad Eglwys Bedyddwyr Llanwennarth. Cododd William Erbury ei lais yr un mor groew yn erbyn yr arferiad. Ond nid oedd llais Llanwennarth a Chaerdydd ond megys llef un yn llefain yn y diffaethwch. Ni thalwyd sylw iddynt. Aeth Eglwysi'r Bedyddwyr ymlaen fel cynt. Ni wahoddwyd William Erbury i ymgynghoriadau yr Anibynwyr." Aeth y ddau enwad ymlaen fel cynt i dderbyn hynny a gaent oddiar fwrdd y Wladwriaeth.
Am gyflwr Cymru yn y cyfnod hwn—yr oedd corff y genedl mor dywyll ac ofergoelus yn 1639 ag oeddent yn 1558, pan
11 A Call to the Churches, or a Packet of Letters for the Pastors of Wales. No. 6. Wm. Erbury, Aug., 1652. Q fu farw Mari Waedlyd. Danghoswyd eisoes mor eithafol wrth-Ymneillduol oedd Cymru pan gychwynnodd y rhyfel cartrefol. Prin yr oedd y cwrs a fabwysiadwyd gan y Senedd, sef troi allan nifer o glerigwyr—er mai dynion anheilwng oedd llawer o honynt yn tueddu i ennill serch y wlad at y gweinidogion newydd. Ac er nad oedd yr ymraniadau rhwng yr Anibynwyr a'r Presbyteriaid, oedd mor amlwg a niweidiol yn Lloegr, yn cario cyffelyb effaith yng Nghymru—am y rheswm syml na chafodd Presbyteriaeth fel cyfundrefn erioed wreiddyn yn y Dywysogaeth—eto i gyd yr oedd yma elfennau dadgyfaniad. Er fod ambell un, hyd yn oed mor selog a'r Archesgob Williams,[1] wedi troi cefn ar y brenin, ac, o leiaf yn ymddangosiadol, wedi bwrw eu coelbren gyda'r Senedd, eto yr oedd digon o'r hen ysbryd yn aros i fanteisio ar bob cyfle i ddrygu'r Senedd a'i chynrychiolwyr cyflogedig yn y wlad. Dywed y Cymro enwog, Dr. John Owen, mewn pregeth a draddodwyd ganddo o flaen y Senedd, yn 1656, fod y pleidiau yn eithafol yng Nghymru. Dyma ddywed:—
"Na thybiwch allan o le fy mod yn galw eich sylw at un rhan o'r deyrnas yn enwedig—mae esiampl y saint yn caniatau i ni dalu sylw arbennig i'n cenedl ein hunain, ein ceraint yn ol y cnawd. Am Gymru yr wyf yn siarad, lle y mae, yn anffodus, ym mron pawb dynion yn rhedeg i eithafion, wedi niweidio llwydd a chynnydd yr Efengyl pan y gobeithiem am bethau gwell. Mae rhai eto yn selog dros draddodiadau'r Tadau; ac ni foddlona dim hwynt ymron ond yr hen ddull o ddarllenwyr begeraidd ymhob plwyf. Mae eraill, drachefn, o zêl dda, efallai, wedi gyrru'r bobl a'u hangerddoldeb tu hwnt i'w hegwyddorion,—ac weithiau, efallai, tu hwnt i'r gwirionedd; ac fel y dywedodd Jacob, mae gyrru y gwartheg blithion a'r plant yn rhy chwyrn wedi ymron difetha'r holl braidd. Rhwng achwyniadau o'r naill du a'r llall—rhwng zèl gam—arweiniol a ffurfioldeb―mae yr holl adeilad ymron cael ei fwrw i'r llawr; ac nid oes nemawr neb yn gofalu am fuddiannau Seion fel y cyfryw.[2]
Dyna eiriau cryfion, gan un a wyddai am gyflwr y wlad. Yr oedd ysbryd y Diwygiwr yn gryf yn John Owen, ac yngwaed