na'r athraw. Nid oes gennym hanes am un Eglwys arall yn dilyn esiampl Llanwennarth. Ond ceir ffaith tra arwyddocaol. Am chwe mlynedd yr oedd Eglwysi Bedyddiedig Cymru yn cynnal Cymanfa flynyddol, i'r rhai y danfonid cenhadon o'r Eglwysi. Yn 1655 y pasiwyd penderfyniad Llanwennarth. Yn 1656 y cynhaliwyd yr olaf o'r Cymanfaoedd am 30 mlynedd. Gellir cyfrif am eu rhoi heibio ar ol 1662, ond beth am y chwe mlynedd cyn hynny? A oedd rhywbeth a fynnai penderfyniad Llanwennarth a rhoi'r Gymanfa heibio?
Ceir ychydig oleuni pellach ar gymeriad ac egwyddorion John Myles yn ei hanes yn yr America. Pan drowyd ef allan o berigloriaeth Ilston, yn 1662 fel y tybir, ac y collodd mewn canlyniad ei gyflog, cwtogwyd o angenrheidrwydd ar ei allu i gario'r genhadaeth ymlaen yng Nghymru. Ymfudodd i'r America a sefydlodd, yn 1663, mewn lle o'r enw Rehoboth, ym Massachusetts. Yno casglwyd Eglwys fechan o Gaeth Fedyddwyr—Eglwys Fedyddiedig gyntaf America. Felly, i'r dyn da hwn y perthyn yr anrhydedd eithriadol o sefydlu yr Eglwys gyntaf o'i enwad yng Nghymru ac yn America. Danghosir eto na therfynnodd dyled America i Gymru gyda hyn. Yr Anibynwyr a lywodraethent y pryd hwn ym Massachusetts, ac Eglwys Anibynnol oedd yr Eglwys Wladol yno. Felly, yn America, fel yng Nghymru, ffurfiodd Myles Eglwys Fedyddiedig o'r tu allan i'r Eglwys Wladol. Ond yn wahanol i'w brofiad yng Nghymru, cyfryngodd y Wladwriaeth, a gorfodwyd Eglwys Myles i symud o Rehoboth.[1] Gwelir, felly, ei fod yn ddyn o argyhoeddiadau cryfion,
- ↑ Y cyhuddiad yn erbyn Myles gerbron y llys, Gorff. 2, 1667, oedd ei fod heb wybodaeth na chymeradwyaeth y Llys wedi sefydlu cyfarfod cyhoeddus, a thrwy hynny wedi aflonyddu ar heddwch y lle; fod parhad y gymdeithas honno yn Rehoboth yn niweidiol iawn i heddwch yr Eglwys a'r dref honno, ac nas gellir ei ganiatau." Gorchymynnwyd iddynt roi heibio'r cyfarfodydd o fewn mis. Dirwywyd Myles i bum punt. Addawodd y llys, er hynny, os symudai Myles i rywle arall, heb fod yn ddigon agos i Eglwys Rehoboth i aflonyddu arni, y caent ganiatad i sefydlu Eglwys yno—ac yn Hydref, yr un flwyddyn, rhoddodd y Llywodraeth ddarn o dir iddynt, lle y sefydlasant, gan godi tref Swansea, Massachusetts.