Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith o sefydlu Eglwysi Bedyddiedig. Yng Nghymru manteisiodd ar gymorth y Wladwriaeth i wneud hynny yn groes i syniadau rhai o'i ddisgyblion. Yn America cariodd allan yr un egwyddorion crefyddol yn groes i syniadau'r Llywodraeth. Ond erys yr anghysondeb o ddal bywoliaeth plwyf Ilston gyda chymundeb rydd, a gweinidogaeth Eglwys Fedyddiedig Ilston gyda Chaeth-gymundeb, eto heb ei esbonio.

Er na sefydlwyd cynifer o Eglwysi'r Bedyddwyr ag o eiddo'r Anibynwyr yn nyddiau Cromwell, eto gwnaeth yr enwad, fel enwad, fwy o gynnydd cyfundrefnol. Sefydlwyd Cymanfa Flynyddol ganddynt a chymerodd honno at y gwaith o drefnu pregethwyr a chylchdeithiau iddynt, gan benodi hefyd swm y gyflog a delid i bob un. Ar wahan oddiwrth gynllun y Senedd, dyma'r ymgais gyntaf yng Nghymru i gario cenhadaeth grefyddol gyffredinol ymlaen. Ceir yn y cynllun a sefydlwyd gan John Myles a'i gyd-weithwyr, ac a gariwyd allan mor effeithiol drwy rannau eang o'r De, rhagddelw o'r cynllun perffeithiach a weithiwyd allan gan Howell Harris a'i gyd-Ddiwygwyr yn agos i gan mlynedd wedi hynny. Mae llawer o egwyddorion hanfodol y cynllun a fabwysiadwyd yng Nghymdeithasfa Watford, yn 1742, i'w canfod yn y cynllun a fabwysiadwyd yng Nghymanfa Ilston, yn 1650. Cyfrifa amgylchiadau gwahanol y ddwy ganrif, mewn cyfleusderau teithio, parodrwydd y werin i dderbyn yr efengyl, mynychder cymdeithasau crefyddol, &c., yn ogystal ag egwyddorion nodweddiadol y Diwygwyr Bedyddiedig yn y 17fed canrif o'u cydmaru âg eiddo Diwygwyr Anenwadol y 18fed canrif, am y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth rhwng y ddau gynllun. Amcan y naill oedd cynyrchu elfennau crefydd ysbrydol drwy sefydlu canghennau lluosog o Eglwysi'r Bedyddwyr; amcan blaenaf y llall oedd cynyrchu yr un peth drwy sefydlu cymdeithasau crefyddol anenwadol. Dadblygodd yr olaf wedi hynny, mae'n wir, i ffurfell debycach fyth i gynllun Myles. Ond ymdrinnir yn helaethach ar y wedd yma i'r pwnc yn ei le priedol. Y