gwirionedd y ceisir ei yrru adref yma yw, ma i'r Bedyddwyr Cymreig, o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth John Myles, y perthyn yr anrhydedd o sefydlu gyntaf erioed genhadaeth grefyddol, gyffredinol a chyfundrefnol, sylfaenedig yn gyfan-gwbl ar yr egwyddor wirfoddol. Ymaflwyd yn y gwaith yn egniol gan Eglwys Ilston ei hun. Wele'r cynllun a fabwysiadwyd ganddynt hwy mewn Cwrdd Eglwys a gynhaliwyd. Hydref 16, 1650:-
Cytunasant y byddai i'r Eglwys dorri bara yn Ilston ar y dydd cyntaf o'r wythnos, unwaith bob tair wythnos; ac ar y ddau ddydd cyntaf arall yr aelodau ym mharthau Gorllewin Browyr i gyfarfod yn Llanddewi; y rhai a breswylient yn agos i Ilston i gyfarfod yn Ilston; a'r rhai yn Sir Gaerfyrddin, a'r parthau hynny yn nhy Jane Jones, neu lle byddai yn fwyaf cyfleus ffordd yna. Trefnasant gyfarfodydd yn yr wythnos hefyd, yn y parthau Cymreig, ar y trydydd dydd o'r wythnos, yn Ilston ar y pedwerydd, ac yn Llanddewi ar y pumed. Yn y cyfarfodydd hyn yr oedd ymchwiliad i gael ei wneud gyda golwg ar ymddygiad y rhai oedd yn y gwahanol ardaloedd hyn; a chyngor, neu gerydd, &c., i gael ei roddi yn ol fel yr ymddanghosai yn briodol. Yr oedd cyfarfod at ddisgyblaeth Eglwysig yn Ilston ar y pedwerydd foreu, unwaith bob tair wythnos. Y prif weinidogion hyd yn hyn oeddynt Meistriaid Miles a Proud. Yr oedd eraill yn arfer eu doniau, fel yr ymddengys isod."[1]
Yng nghynhadledd Cymanfa Ilston yr un flwyddyn, dygwyd y genadwri ganlynnol oddiwrth Eglwysi eraill:—
Gosodiadau a threfniadau aelodau y ddwy Eglwys, y Gelli a Llanharan, wedi cyfarfod yn Ilston, ar y 6ed a'r 7fed o'r nawfed mis, 1650, y rhai a ddanfonwyd gan yr Eglwysi rhagddywededig at y brodyr yn Ilston, i gydymgynghori â hwynt o berthynas i'r cyfryw bethau ag a benderfynnir ganddynt yn awr, trwy gymorth Duw, ac a enwir yma. Wrth ystyried yn ddifrifol y diffyg mawr o'r fath weinidogion ag a wnant ddal allan air y gwirionedd yn iachus, yn Sir Gaerfyrddin, a'r cyfleusdra amserol sydd yn awr yn cael ei agor gan ragluniaeth Duw i wasgaru y gwirionedd yn y parthau hyn, barna y brodyr fod angen i'r brawd D. Davies ymdrechu pregethu dau ddydd cyntaf (Sabath) bob dau fis yn nhref Caerfyrddin, neu o gwmpas yno; ac fod y brawd John Miles i bregethu yno un dydd cyntaf bob dau fis; a bod i'r
- ↑ Hanes y Bedyddwyr, Joshua Thomas, tudal. 80.