ddechreu ar ei genhadaeth, er fod cyfartaledd da o Anghydffurfwyr Cymru yn Fedyddwyr o ran credo, ni ddaeth i'w bryd i wahanu oddiwrth eu brodyr y Baban Fedyddwyr. Anibynnwr oedd Vavasor Powel, y cenhadwr tanllyd, ar gychwyn ei yrfa, ac am lawer blwyddyn wedyn; ac hyd yn oed pan newidiodd ei farn ar fedydd, ac y cymerodd ei fedyddio, nid yw yn ymddangos iddo droi yn Fedyddiwr Caeth. Parhaodd yr Eglwysi a sefydlwyd ganddo i fod yn Eglwysi cymysg,—ac ymhen amser cydnabyddid hwynt fel Eglwysi Anibynnol. Dyna hanes Eglwysi Llanbrynmair, Llanfyllin, a Gwrecsam.
Nid oedd Cymanfaoedd cyhoeddus na Chynadleddau agored yn cael eu cynnal gan Anibynwyr Cymru'r oes honno. Cyfarfyddai y gweinidogion ar adegau i ymgynghori â'u gilydd, ac o bosibl i drefnu mesurau a materion perthynol i'w gwaith cyffredin. Ond ni wisgai yr ymgynghoriadau hynny y wedd ddeddfol a'r ffurf awdurdodol sy'n nodweddu Cymanfaoedd cyntefig y Bedyddwyr. Nid oes gennym gofnodion o honynt—a'r tebygolrwydd yw na chedwid cofnodion o gwbl. Yn wir mor "anibynnol" y parhaodd yr Anibynwyr ar y dechreu, fel y cawn, ymhen dros gan mlynedd ar ol hyn, gri yn cael ei godi yn erbyn y gweinidogion Anibynnol yn y De a feiddiasant sefydlu Cwrdd Chwarter,—ar y tir fod y cyfryw yn ymyrryd ag anibyniaeth yr Eglwysi! Felly, os mynnir olrhain hanes yr Anibynwyr yn y cyfnod hwn, rhaid chwilio am dano nid mewn cofnodion Cymanfa ond yn hanes personau ac yng ngweithgarwch Eglwysi unigol. Dyma ar unwaith nerth a gwendid Anibyniaeth. Rhoddai fwy o le, a llai o gylch, i'r dylanwad personol. Ymhob oes, o ddyddiau Cromwell hyd heddyw, mae dylanwad personoliaeth wedi bod yn amlwg yn hanes Anibyniaeth Cymru. Cymerer Walter Cradoc, Vavasor Powel, a Morgan Llwyd fel enghreifftiau yn y cyfnod dan sylw—er fod y ddau flaenaf fel sêr gwibiog yn fflachio o'r naill ochr i'r llall o'r gorwel yn ffurfafen dywell "Eglwys Vavasor Powel" y gelwid yr un fawr y cyfnod. a sefydlodd y cenhadwr fflamllyd yn Nhrefaldwyn; "Cradociaid"