Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gelwid aelodau'r Eglwysi a blannodd ei gyfaill mwy efengylaidd. Gellir dweyd yr un peth am Stephen Hughes, cysylltydd cyfnod Cromwell a chyfnod Siarl II.; am Hugh Owen, Bronyclydwr, goleuni'r hwn a fflachiodd fel seren gobaith y gogledd drwy holltiadau cymylau bygythiol erlidiadau Siarl II.; am Edmund Jones—yr Hen Broffwyd tanllyd o Bontypwl—a'i ddisgybl efengylaidd, Lewis Rees, o Lanbrynmair; am Phylip Pugh, a'r Dr. Phillips, Neuaddlwyd; am Gruffydd Hughes, y Groeswen, Rees Llanelli, a Williams Troedrhiwdalar; am J. R., S. R., a Michael Jones; am Dr. John Thomas, Dr. Rees, Abertawe, a Dr. Herber Evans—ac am aml un yn yr olyniaeth ddisglaer sy'n cysylltu Alpha ac Omega hanes yr enwad.

Ond, a siarad yn gywir, nid oes gennym Hanes yr Enwad. Mae gennym Hanes y Bedyddwyr, Hanes y Methodistiaid, Hanes y Wesleyaid—canys cyfundrefnau wedi eu canoleiddio, fwy neu lai, ydynt oll. Ond am yr Anibynwyr, Hanes yr Eglwysi Anibynnol, gan y Doctoriaid Thomas a Rees, a Hanes y Tadau Anibynnol, gan Mr. L. D. Jones, yn unig sydd gennym. Yn hanes y Dyn, a'r Eglwys, yn unig, y ceir hanes yr Enwad. Edrycher yn ol dros y cenedlaethau a'r canrifoedd, a sylwer ar aml i lecyn gwyrdd sy'n blodeuo fel gardd yr Arglwydd yng Nghymru, wedi ei ennill o'r anialwch gan waith un gwr neu un Eglwys. Ie, os mynner, edrycher ar faes cydgystadleuaeth enwadau, a sylwer pa fodd y mae dylanwad personoliaeth un dyn wedi codi gwrthglawdd yn erbyn rhuthr yr enwad a ymgystadlai; fel, ar yr amser yr ysgrifennir y llyfr hwn, mae'r Afon Tugela yn nodi ffin y tir a ddelir gan fyddin y Bweriaid yn Natal yn erbyn gallu milwrol Prydain—felly y ceir cylch dylanwad personoliaeth un dyn yn nodi llinell ffin enwadaeth mewn rhanbarthau o Gymru;—os mynner engraifft sylwer ar gylch dylanwad Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn Sir Aberteifi. Sieryd y ffaith fod cyn lleied o Eglwysi'r enwad wedi diflannu, yn uchel am burdeb zel a gloewder egwyddor gwerin yr Eglwysi hynny. Ar yr un pryd mae diflaniad neu ŵyrdroad Eglwysi Phylip Pugh yng Ngheredigion, yn sefyll i fyny fel