colofn barhaol i rybuddio'r enwad o'r perygl i Eglwys edrych yn ol wedi i'w hathraw a'i harweinydd ei gadael, yn lle teithio yn wrol ymlaen ar y llwybr y dysgodd efe hwynt i gerdded. Am yr enwadau eraill, yn enwedig y rhai mwyaf cyfundrefnol, megys y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd, a ffurfiwyd yn y ganrif ganlynol, gwelir dylanwad y personoliaeth yn gweithio nid mewn un rhanbarth, fel gyda'r Anibynwyr, ond yn y gyfundrefn fel cyfangorff. Felly y bu gyda John Myles ymhlith y Bedyddwyr cyntaf, gyda John Wesley ymhlith y Wesleyaid cyntaf, George Whitefield, Howell Harris, a Rowlands, Llangeitho, ymhlith y Methodistiaid anenwadol cyntaf ac mor amlwg a neb o honynt Thomas Charles o'r Bala, pan ymrisialodd y mudiad diwygiadol anenwadol i ffurf enwad gwahanfodol a gwahaniaethol. Daw y gwirionedd hwn yn amlycach pan olrheinir mewn penodau dyfodol ddadblygiad graddol y gwahanol enwadau.
Ceir yn hanes crefyddol y 17fed ganrif un engraifft nodedig arall o'r hyn a ddywedwyd uchod. Tua diwedd dyddiau Cromwell cododd y Crynwyr i lawer o gyhoeddusrwydd. George Fox oedd sylfaenydd y blaid hon yn y deyrnas. Lledodd ei egwyddorion yn fuan i Gymru. Gogleddwyr oedd prif ledaenwyr yr egwyddorion yn y Dywysogaeth, sef John ap John, un o aelodau Morgan Llwyd yng Ngwrecsam; Richard Davies o'r Trallwm, a'r brodyr Charles a Thomas Lloyd o Dolobran, ger Llanfyllin. Lledodd y blaid hon yn gyflym, yn enwedig yn Siroedd Maldwyn a Meirion, ac i raddau llai yn holl Siroedd Cymru, ag eithrio Mon ac Arfon. Buont ar un adeg yn allu a dylanwad cryf yn y Dywysogaeth. Nid oedd ganddynt y pryd hwnnw gyfundrefn i gario'r gwaith ymlaen, nac olyniaeth gyson o wŷr galluog ac ymgyflwynedig fel y rhai a gychwynnodd y gwaith, ac aethant yn wannach gwannach, nes nad oes erbyn hyn ond ychydig olion o'u llafur, a rhyw haner dwsin o gymdeithasau i etifeddu traddodiadau goreu heb ddim o lygriadau y Crynwyr cyntaf.
Casglwyd y blaid, ar y dechreu, gan mwyaf nid o'r byd,