fel y gwnai'r enwadau eraill, ond o'r Eglwys, o blith proffeswyr crefydd, Bedyddwyr ac Anibynwyr gan mwyaf. Y rhai mwyaf eithafol a selog ymhlith yr Ymneillduwyr a droent at y Crynwyr. Yr oeddent yn dra gwahanol eu hysbryd a'u dull o weithio i'w holynwyr yn yr oes bresennol.
Y bobl hyn, pleidwyr heddwch ymhob oes a gwlad, oeddent y mwyaf ymosodol o'r holl enwadau Ymneillduol yn yr oes honno. Tra boddlonai'r Bedyddwyr a'r Anibynwyr ar gynal eu cyfarfodydd eu hunain yn nhawelwch eu cynulleidfaoedd eu hunain, heb ymyryd â, nac aflonyddu ar, heddwch cynulliadau eraill, mynnai'r Crynwyr cyntefig ymweled â'r Eglwysi plwyfol ac â'r addoldai Ymneillduol, ac yno godi eu llais mewn tystiolaeth yn erbyn yr hyn a dybient allan o le yn yr addoliad. Aent ymhellach hyd yn oed na hyn, gan ymosod mewn iaith wrthun ar offeiriaid Eglwysig ac ar weinidogion Ymneillduol ar yr ystrydoedd—a hyn oll yn enw "tystiolaeth oddiuchod." "Proffwydi Baal," Had y sarff," a'r "Gau-Grist," oedd yr enwau gorcu a roddent i glerigwyr pob enwad ond yr eiddynt hwy. Cymerent arnynt efelychu proffwydi'r Hen Destament. Ai benywod i ganol y gynulleidfa yn Eglwys y plwyf ar y Sul, wedi eu gwisgo mewn sachlian, "fel arwydd i genhedlaeth war-galed a throfaus." Aeth un i gapel Ymneillduol a llian gwyn wedi ei droi am dano, fel arwydd fod y wisg offeiriadol yn dod yn ol i'r gwasanaeth; rhoddodd raff am ei wddf gan broffwydo fod adeg eu rhwymo wrth y drws. Aeth un arall i'r Eglwys gan gario llusern a chanwyll wedi ei goleuo ynddi—fel arwydd fod eisiau goleuo eu tywyllwch. Ai eraill ohonynt yn noethion i'r ffeiriau, i dai offeiriaid a gwyr mawr, gan broffwydo y gwnai Duw felly iddynt hwythau.[1] Nid rhyfedd i rai felly gael eu herlid yn yr oes honno. Nid rhyddid cydwybod oedd hyn, eithr penryddid eithafol.
Er fod dull gweithio'r bobl hyn yn aml yn resynnus, yr oedd eu hamcanion yn ganmoladwy. Eu hamcanion cydnabyddedig oedd gwrthdystio yn erbyn ffurfioldeb crefyddol o bob math—mewn adeilad, mewn swydd, mewn gwisg; rhoi terfyn ar weinidogaeth gyflogedig; diddymu llwon; gwahardd arfau milwrol neu gnawdol o bob math. Hawlient fod y goleuni oedd ynddynt yn ysbrydoliaeth ddwyfol uniongyrchol.
Nodaf ychydig allan o lawer o wyr da a wnaethant wasanaeth amhrisiadwy yn y cyfnod hwn.
Y FICER RHYS PRICHARD, O Lanymddyfri, awdwr Canwyll y Cymry. Yr oedd yn bregethwr yn ogystal a bardd poblogaidd. Teithiai ol a
- ↑ Fox's Journal. 323 et seq.