blaen rhwng Llanymddyfri a Thy Ddewi, gan bregethu'r ffordd yr elai. Tyrrai'r bobl i'w wrando. Nid oedd Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi yn ddigon mawr i gynnwys y torfeydd a fynnent ei wrando—a rhaid oedd iddo bregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yn efengylaidd a gwrth—Babaidd, ac nid ofnai un amser amlygu ei syniadau.[1] Er mai Eglwyswr oedd, un mawrfrydig heb ddim culni ydoedd. Cymysgai a'i athrawiaeth lawer o gynghorion ymarferol. [2] Pan fu farw, nis gallai'r bobl arferent ei wrando ddygymod â ffurfioldeb y gwasanaeth Eglwysig, ac aeth llawer o honynt yn Ymneillduwyr.
STEPHEN HUGHES, Mydrim, oedd offeiriad efengylaidd arall, o gyffelyb ysbryd i Ficer Prichard. Am dano ef y dywedwyd, "Os mai'r Ficer wnaeth y Ganwyll' mai Stephen Hughes a'i goleuodd."[3] Dyn o flaen ei oes ymhell oedd Stephen Hughes. Gwnaeth yn ei ddydd gyffelyb waith ag a wnaeth Rowlands Llangeitho ymhen union can mlynedd ar ei ol—sef sefydlu cymdeithasau (neu gyfeillachau) crefyddol o'r tu allan i'r Eglwys. Efe a grynhodd y cynulleidfaoedd Anghydffurfiol a ffurfiasant Eglwysi Ymneillduol Sir Gaerfyrddin, ym Mydrim, Pen-cader, Llanfihangel-Rhos-y-Corn, Llanon, Llanedi, Capel Isaac, Panteg, Llanybri, Henllan, a Threlech. Mae'n bosibl na fwriadai Stephen Hughes, ar y cyntaf, i'r cymdeithasau hyn fod yn ddim amgen na chyfeillachau o ddynion crefyddol ymhob ardal—ond ddarfod i rym amgylchiadau orfodi'r cymdeithasau hynny, fel rhai o'r Seiadau Methodistaidd a gasglwyd gan Rowlands Llangeitho ac eraill yn y ganrif ganlynol, i ymffurfio yn Eglwysi Ymneillduol. Os gellir cyfrif John Penry fel Tad
- ↑ Wele ddau bennill o'i eiddo fel engraifft o lawer:—
Os y Purdan sy'n ein golchi
O'n pechodau oll, a'n bryntni,
Pam y dywaid y Scrythyrau
Mae gwaed Crist sy'n golchi beiau?
Os ca i waed fy Nghrist i'm golchi
O'm holl bechod, o'm holl fryntni,
Cloed Pab fi 'nghenol Purdan,
Ni bydd arna i byth ei ofan! - ↑ Wrth y mab dywed:—
Od wyd wr mawr o alwad uchel,
A'th dad yn dlawd a'i radd yn isel,
Rho barch i'th dad, er cuwch o'th alwad,
Anrhydedda'th fam yn wastad.
Wrth y carwr y mae yn dweyd:—Pan yr elych gynta i garu,
Galw ar Dduw os myn di ffynnu,
Cais ei Ysbryd i'th gyfarwyddo,
Hebddo nid oes lun i'th lwyddo.
I'r llanc a'i fryd ar briodi, dyrry gynghorion pa fodd i ddewis ei wraig:—Gwachel goegen falch, ddifeder;
Gwachel soga sur, ansuber;
Gwachel un oludog, ffromffol;
Honno fina di a'th bobol.
Cais wraig ddistaw dda ei nwyde,
Ddof ei natur, bach ei chwedle,
Cais wraig fedrus ddoeth, rinweddol,
Honno gwyd yn ben i'th bobol. - ↑ Cyfeiriad sydd yma at y ffaith iddo gyhoeddi cynifer o argraffiadau o Ganwyll y Cymry.