VAVASOR POWEL a enillodd o bosibl fwy o lid gelynion na neb o Ddiwygwyr y cyfnod hwnw. Sicr yw iddo gael mwy o'i crlid, a mwy o'i bardduo, na neb o'i gyd-weithwyr yng Nghymru. Fel Paul, gallai ddweyd ei fod mewn carcharau yn amlach" na neb o'i gydoeswyr.[1] Gorfu iddo ddioddef llawer yn nechreu ac yn niwedd ei yrfa gyhoeddus, ond cafodd lawer o heulwen yn y canol. Pan ddymunai gyntaf gael awdurdod i bregethu yn ei wlad enedigol, cododd rhai o aelodau Cynhadledd y Duwinyddion wrthwynebiad iddo, ar y tir nad oedd wedi cael ei ordeinio. Ond llwyddodd ei yni i berswadio'r Gynhadledd i wneud prawf arno; ac yn 1646 cafodd drwydded, wedi cael ei harwyddo gan ddau-ar-bymtheg o'r Duwinyddion, yn cynnwys dynion fel Joseph Caryl, Philip Nye, Stephen Marshal, a Christopher Love. Mor llawn of zel a brwdfrydedd ag oedd Paul pan yrrwyd ef gyntaf i bregethu Crist, nid oedd dim llafur yn rhy galed, na'r un ymdrech yn rhy fawr i Vavasor Powel. Fflachia fel gwib-seren ddisglaer ar draws awyrgylch dywell Cymru. Nid oedd nemawr i ran o'r Dywysogaeth nad ymwelodd efe â hi. Pregethai fel rheol bob dydd o'r wythnos, yn aml ddwy a thair gwaith y dydd, ac nid oedd teithio gan milldir y dydd, gan bregethu mewn gwahanol fannau, yn beth eithriadol ganddo. Erbyn hyn yr oedd yr Eglwysi Plwyfol yn agored i'r rhai oeddent gynt yn Anghydffurfwyr. Ar y Sul ceid ef yn llenwi pwlpud yr Eglwys; ar y Llun, o bosibl, yn Neuadd y Dref; trannoeth ceid ef yn annerch twrr o wladwyr ymgynhulledig o gwmpas efail gof y pentref; a thrachefn yn y mynydd—dir i hanner dwsin o ffermwyr neu fugeiliaid; gwyddai am bob ffair a marchnad ar ei lwybr ac yno uwch dadwrdd y prynwyr a'r gwerthwyr a brefiadau'r anifeiliaid, disgynnai ei lais fel sain cloch yn hawlio sylw pawb. Am dair blynedd gron bu'n llafurio felly ddydd a nos i oleuo ei gydgenedl. Lledodd y son am dano drwy y wlad a thros y terfyndir. Galwyd arno i Lundain yn gynnar yn 1649 i bregethu i'r Arglwydd Faer; ac i'w ymdrech bersonol ef gyda'r Aclodau Seneddol, yn ddiameu, y rhaid priodoli y rhwyddineb a'r hwn y pasiodd Deddf Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru'r flwyddyn honno. Yr oedd ei deithiau mynnych, a'i adnabyddiaeth bersonol o ardaloedd a chymeriadau, yn ei gymhwyso mewn modd neillduol i gyfarwyddo'r Dirprwywyr o dan y ddeddf, ymha ardaloedd y byddai'n ddymunol troi'r clerigwyr allan, a pha bersonau oeddent gymhwys i'w penodi yn arolygwyr crefyddol y siroedd, yn efengylwyr teithiol, ac yn bregethwyr cynorthwyol. Gyda'r ddeddf hon tu cefn iddo, ymdaflodd gydag ymroddiad newydd i'r gwaith yng Nghymru. Dywed rhai ei fod wedi casglu 20,000 o ganlynwyr yno cyn ei farw—ond mae hyn ar y
- ↑ Bu 13 o weithiau yng ngharchar o fewn yr 11 mlynedd olaf o'i oes.