wyneb yn anhygoel.[1] Ar y cyntaf yr oedd yn uchel yn ffafr Cromwell, ond pan wnaed hwnnw yn Arglwydd Amddiffynnydd y Deyrnas, trodd Powel yn wrthwynebydd iddo. Drwgdybid ef o geisio casglu milwyr i wrthryfela, a charcharwyd ef. Am rai blynyddau o'i weinidogaeth gyhoeddus, yr oedd yn Anibynnwr selog, ond trodd yn Fedyddiwr ymron yr un adeg ag y trodd yn wrthwynebydd i Cromwell. Bu farw yngharchar yn 1670—a'i unig drosedd oedd llwyr ymgyflwyniad i wasanaeth Efengyl Iesu Grist. Yn Wrth-Esgobaethwr mewn ymarferiad—er yn credu mai dyledswydd y Wladwriaeth oedd cynnal crefydd—yn Werinwr o ran ei olygiadau gwleidyddol, gadawodd argraff anileadwy ar hanes ei wlad enedigol, yn wleidyddol a chrefyddol.
WALTER CRADOC, cydweithiwr, ac ar un adeg athraw crefyddol Vavasor Powel, a saif ochr yn ochr â'r gwr mawr hwnnw yn ei ymdrechion diflino dros grefydd yng Nghymru. Oes y brwydro oedd honno, a chafodd Cradoc ei "fedydd tân" yn ei guradiaeth gyntaf o dan Erbury yn Eglwys Fair, Caerdydd. Mae cofnodion Llys Esgobol Llandaf yn cynnwys profion fod yr Esgobaethwyr, Iawn mor chwerw, a dweyd y lleiaf, yn erbyn y curad Cradoc ag oeddent yn erbyn yr offeiriad Erbury. Pan drowyd Erbury a Cradoc allan o Eglwys Fair, gorfu i'r olaf fynd drwy brawf mwy tanllyd fyth ar ei egwyddorion. Mynnai ei deulu iddo roi heibio ei syniad gor-Buritanaidd, ac yr oedd dyrchafiad Eglwysig yn ei aros os gwnai. Pan wrthododd aberthu ei egwyddorion, trodd ei deulu oll yn ei erbyn, a bu am flynyddau yn alltud oddiwrthynt. Gan nad oedd gwaith iddo yng Nghaerdydd, aeth yn efengylydd teithiol—a chanolbarth Cymru, Siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Maldwyn oedd prif faes ei lafur. Gwelir ffrwyth ei waith yn y ffaith fod llinell o Eglwysi Ymneillduol—cadarnfeydd byddin yr Oen—wedi rhedeg ar hyd ei lwybr. Cariai ddylanwad personol mawr, mor fawr yn wir fel y collodd ei ddisgyblion, mewn mannau, enw eu henwad yn enw eu hathraw, ac adnabyddid hwynt, nid fel Anibynwyr, ond fel Cradociaid. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, gorfu i Cradoc, a phregethwyr eraill, ffoi am eu heinioes i Lundain—dinas noddfa Diwygwyr yr oes. Unwaith wedyn, yn 1648, pan dorrodd yr ail Ryfel Cartrefol allan (gwel tud. 108) bu yn ffoadur dros dymor. Am ei ddylanwad yn y Senedd ceir profion lu, a danghosir y safle uchel oedd wedi ennill gyda'r
- ↑ Dywed rhai haneswyr ei fod wedi casglu ugain o Eglwysi Bedydd—iedig yng Nghymru, yn rhifo o 200 i 500 aelod yr un. Hyd yn oed pe bac hyn yn wir, a chymeryd aelodaeth pob Eglwys yn bum' cant, 10,000 a fuasai'r cyfanrif ac nid 20,000. Ond fel y gwelir (tudal 113) nid oedd ond wyth o Eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru pan goronwyd Siarl II.—ac nid oedd aelodaeth Ilston, y fwyaf gweithgar ohonynt, yn agos i 300.