awdurdodau gan y ffaith ei fod ef yn un o'r tri cyntaf a benodwyd gan y Senedd, yn 1645, i arolygu'r gwaith o efengyleiddio Cymru. Efe blannodd Eglwys Gwrecsam, ac un o'i ddychweledigion yno oedd yr enwog Morgan Llwyd o Wynedd. Yn wahanol i Vavasor Powel, glynodd Cradoc yn ffyddlon wrth Cromwell, a thorrwyd felly ar y cyfeillgarwch rhyngddo a Powel oedd wedi dal trwy holl stormydd. erledigaeth. Bu farw yn niwedd 1659, cyn ail gasglu cymylau duon erledigaeth dros y wlad a garai.
JOHN MYLES, a elwir gyda phriodoldeb yn Dad Bedyddwyr Cymru. Cenhadwr wrth natur oedd John Myles, ac i'w ymdrechion personol ef y rhaid priodoli sefydliad cynifer o Eglwysi Bedyddiedig yn Siroedd Mor—gannwg, Mynwy, Caerfyrddin, Maesyfed, a Brycheiniog. Pan oedd Bedyddwyr Cymru yn ymfoddloni ar fod yn aelodau o Eglwysi cymysg, daeth John Myles i alw arnynt ddod allan o'u mysg. Sefydlodd yn 1649, yn Ilston, yr Eglwys Gaethgymunol gyntaf yng Nghymru.[1] Oddiyno lledodd ei ddylanwad dros ymron yr oll o'r Deheudir oddigerth Siroedd Penfro a Cheredigion. Crynhodd yr elfennau Bedyddiedig gwasgaredig yn Siroedd Maesyfed, Brycheiniog, a Henffordd, a phlan—nodd yno Eglwys gref, weithgar, i estyn ei changhennau hithau allan yn ei thro i feddiannu tir newydd. Gwnaeth yr un peth ym Mynwy, gan sefydlu Eglwys Llanwennarth. Meddiannodd ddarn helaeth o Sir Gaerfyrddin, yn ymestyn o Lanelli a Llangennech i lawr hyd dref Caerfyrddin. Dywed haneswyr mai yn 1662 y trowyd ef allan o dan ddeddf Unffurfiacth—Ond mae'n amlwg iddo gael ei droi allan yn 1660; canys, fel y gwelir yn y bennod nesaf, trowyd y Bedyddwyr allan o'u bywiolaethau o flaen yr un o'r enwadau eraill. Bu farw yn yr America.
MORGAN LLWYD O WYNEDD. Mae y gwr enwog hwn yn perthyn yn gyfangwbl i gyfnod Cromwell. Daeth o dan ddylanwad dau eraill o gewri y cyfnod, sef Erbury a Cradoc. Bu yn derbyn ei addysg o dan y 'blaenaf, ac yn aelod o Eglwys yr olaf, gan ddyfod hefyd yn olynnydd i'r
- ↑ Wele gopi o'r penderfyniad i ymffurfio yn Eglwys, a geir yn Llyfr Cofnodion Eglwys Ilston, Hyd. 1af, 1649:—"Nis gallwn lai na rhyfeddu doethineb anchwiliadwy a gallu a chariad Duw yn dwyn oddiamgylch ei fwriadau ei hun, ymhell uwchlaw a thu hwnt i allu a deall y doethaf o ddynion. Fel hyn er gogoniant ei enw mawr y deliodd efe a ni; oblegid pan nad oedd un cwmni neu gymdeithas o bobl yn dal allan a phroffesu athrawiaeth addoliad, trefn, a disgyblaeth, yr Efengyl yn ol y sefydliad cyntefig yn holl Gymru ag y clywsom ni am danynt, er amser y gwrthgiliad; gwelodd yr Arglwydd yn dda i ddewis y gongl dywell hon i osod ei enw ynddi; a'n hanrydeddu ni, rai anheilwng, a'r dedwyddwch o fod y cyntaf yn yr holl barthau hyn, ym mysg pa rai yr arferwyd yr ordinhad ogoneddus o Fedydd, ac yma i gasglu yr Eglwys gyntaf o Gredinwyr Bedyddiedig."