olaf yn y weinidogaeth yn Eglwys Anibynnol Gwrecsam. Rhwng Erbury a Cradoc yr oedd, erbyn dechreu'r rhyfel cartrefol, wedi cael ei drwytho mor llwyr â syniadau Anghydffurfiol mewn crefydd, a gwerinol mewn gwladweiniaeth, fel y gorfu iddo ffoi i Loegr am nodded. Yno enillodd y Cymro ieuanc nerth, a gallu, a dylanwad ymhlith arweinwyr y blaid Seneddol. Yn 1649 cydnabyddwyd ei alluoedd a'i gymhwysder, drwy ei benodi yn un o'r gweinidogion oedd i gyfarwyddo y Dirprwywyr o dan Ddeddf Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru. Gogledd Cymru, mae'n debyg, oedd maes arbennig goruchwyliaeth Morgan Llwyd. Gwyddis ei fod yn cyrraedd hyd Sir Fon, canys mae eto yn aros rhai o'i archebion yn awdurdodi talu cyflogau rhai o'r pregethwyr cynorthwyol o dan y ddeddf honno. Ond heblaw arolygiad cyffredinol, cariai waith Efengylydd ymlaen, gan ymweled â nifer o ardaloedd yn y Gogledd. Cariai ei bresenoldeb a'i ymddanghosiad personol, ddylanwad rhyfedd ar y werin. Dywedir, er engraifft, pan fyddai'n rhodio hyd heolydd trefi'r Gogledd ar ddydd marchnad neu ffair, a'i Feibl yn ei law neu o dan ei gesail, fod y torfeydd a lanwent yr heol, yn agor i wneud ffordd iddo fel pe bae yn un o urddasolion uchaf y wlad. Cymerai gwladgarwch Morgan Llwyd ffurf tra ymarferol, canys tra y cyhoeddodd Vavasor Powel, o bosibl, fwy o rifedi o lyfrau nag ef, yr oedd y rhai hynny, fel eiddo Diwygwyr Cymreig eraill y cyfnod, gan mwyaf oll yn Saesneg; apeliai Morgan Llwyd, ar y llaw arall, yn fwy uniongyrchol at y Cymro yn ei iaith ei hun. Nid oes ond un o'i lyfrau wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol yn y Saesneg.[1] Ei waith llenyddol mwyaf adnabyddus yw "Llyfr y Tri aderyn." Bu farw yn 1659, yn ddeugain oed, cyn gweled dydd adfyd ei grefydd a'i wlad o dan Siarl II. yn gwawrio.
JENKIN JONES, oedd foneddwr cyfrifol yn Sir Frycheiniog. Wedi derbyn addysg yn Rhydychain, ymgymerodd a gwaith y weinidogaeth, ond pan dorrodd y rhyfel cartrefol allan, tybiodd ei fod yn gymaint dyledswydd arno wisgo'r cleddyf dur ag ydoedd i gario cleddyf yr Ysbryd. Drwy ei yni a'i ddylanwad casglodd gorff cryf o wyr arfog o blaid y Senedd yn Sir Frycheiniog, ac er fod y brenhinwyr yn lluosog yno, llwyddodd ef i'w cadw rhag anrheithio ac erlid yr Anghydffurfwyr fel a wnaent mewn siroedd ereill.[2] Penodwyd yntau yn un o Brawfwyr Deddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, a phenodwyd ef i un os nad ychwaneg o fywiolaethau Eglwysig. Ar esgyniad Siarl II. yr oedd yn beriglor Cadoxton ger Castellnedd, o'r lle y trowyd ef allan. Dioddefodd lawer wedi hyny, a charcharwyd ef, a rhan o'r gynulleidfa a gasglodd o'i