gwmpas yng nghymydogaeth Llanymddyfri. Yr oedd yn Fedyddiwr, ond yn perthyn i'r dosbarth rhyddfrydig eu barn ar gwestiwn bedydd.[1]
Yr oedd amryw eraill o Ddiwygwyr enwog a gweithgar yn y cyfnod hwn. Ond nid oes nodweddion eithriadol yn perthyn iddynt (ag eithrio o bosibl Richard Davies, y Crynwr, am yr hwn y ceir manylion yn y cyfnod nesaf). Eto mae un gwr enwog, mewn rhai ystyriaethau y galluocaf o Gymry yr oes. honno, y dylid sylwi arno yn y fan hon, er mai o'r tu allan i Gymru yn bennaf y dygodd ei waith ymlaen.
DR. JOHN OWEN oedd un o brif golofnau Ymneillduaeth Anibynnol yn Lloegr. Pan yn 12 mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod o brifysgol Rhydychain, lle y graddiodd yn M.A. pan yn 19 oed, Gan nas gallai ddygymod â defodaeth eithafol yr Eglwys, derbyniodd alwad i weinidogaeth Eglwys Ymneillduol Coggleshall. Ymgysylltodd â'r Anibynwyr mewn gwleidyddiaeth yn ogystal a chrefydd. Yn 1652 penodwyd ef yn Ddeon Coleg Eglwys Crist yn Rhydychain, ac yn fuan wedyn gwnaed ef yn Is-Ganghellydd y Brif Ysgol. Yr oedd yn un o'r gweinidogion a benodwyd i gyfarfod a nifer o gynrychiolwyr o enwadau eraill yn 1654 i geisio cytuno ar nifer o bynciau sylfaenol a ellid eu derbyn fel sail cyd-weithrediad yr holl enwadau ac yn y gynhadledd honno daeth i wrthdarawiad a'r enwog Richard Baxter, ac edrychid ar y Cymro a'r Sais fel dau arweinydd dwy blaid fawr. Cafodd Dr. John Owen gymaint rhan yn ffurfio egwyddorion yr Anibynwyr mewn gwlad ac Eglwys ag a gafodd Baxter ar bolisi yr adran Bresbyteraidd. Yr oedd yn ysgrifennwr diflino. Dyry Wood (Athene Oxoniensis, pp. 741—748) restr o yn agos i 70 o weithiau llenyddol Dr. Owen. O dan ei aden ef yr aeth ei nai, Hugh Owen, Bronclydwr,[2] i'r Brifysgol, ac yr oedd delw ei ewythr yn amlwg ar egwyddorion cryf, clir, Apostol Meirion tra bu byw. Yr oedd yn un o'r ychydig Buritaniaid a lwyddodd i ennill parch Siarl II. anfoesol, a Iago II. Babyddol. Cadd gynnyg esgobaeth pe cydymffurfiai—ond yr oedd gormod o asgwrn cefn yn egwyddorion y Cymro dysgedig i ganiatau iddo wneuthur hynny. Bu Dr. Owen farw yn 1683.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwn fy mod wrth ddweyd hyn yn gwahaniacthu oddiwrth Dr, Rees, yr hwn a'i hawlia fel Anibynnwr. Ond ymddengys i mi fod y llythyr o eiddo John Myles at Eglwys y Gelli yn 1649 (gwel Seren Cymru, Mawrth 29, 1872) yn gwneud y peth tu hwnt i amheuaeth. Nis gellir rhoi esboniad arall ar y llythyr na (1) Fod Jenkin Jones yn Fedyddiwr; (2) Ei fod yn ei gymeriad fel gweinidog yn cyfrannu ordinhad Swper yr Arglwydd i Eglwysi nad oeddent Fedyddwyr; (3) Mai am ei fod yn gwneud hynny y condemnia John Myles ef, gan ddweyd ei fod yn adeiladu gwair a sofl" ar sylfaen oedd wedi ei dechreu yn dda ganddo.—B. G. E.
- ↑ nodyn: Nid oedd Hugh Owen yn nai i John Owen, roedd John yn gefnder i dad ac i fam Hugh Owen