PENNOD XI.
DEDDF UNFFURFIAETH 1662.
Gyda marwolaeth Cromwell, collodd y Weriniaeth ei chadernid. Yr oedd ei fab Richard yn rhy wan i ddal yr awenau pan syrthiasant o law ei dad; ac nid oedd ymhlith Ymneillduwyr Lloegr neb arall o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'i frodyr a feiddiai anturio i lenwi lle y gwron ymadawedig. Y canlyniad fu i Siarl II., yn 1660, esgyn yn ymarferol ddi-wrthwynebiad i'r orsedd oddiar yr hon yr hyrddiwyd ei dad ddeuddeng mlynedd cyn hynny.
Mewn effaith yr oedd yr Ymneillduwyr wedi bod yn llywodraethu'r wlad am ddeunaw mlynedd. Am chwech o'r rhai hynny y Presbyteriaid oedd â'r awenau yn eu dwylaw; am ddeuddeng mlynedd yr Anibynwyr oeddent yn rheoli.
Fel y gwelir wrth y penodau blaenorol, yr oedd syniad y ddau enwad am foesoldeb cyhoeddus yn hollol wrthwynebol i eiddo'r Esgobyddion. Gallesid disgwyl y buasai yn agos i ugain mlynedd o ymarferiad mewn moesau, wedi gwneud y wlad yn gyffredinol ffafriol i oruchwyliaeth y Puritaniaid. Y dybiaeth gyffredin yw mai felly y bu; eithr tybiaeth gyfeiliornus yw. Ni bu moesau cyhoeddus erioed mor isel yn nyddiau Iago I. a Siarl I. ag oeddent yn nheyrnasiad Siarl II. Gwir na bu adeg, o bosibl, erioed cyn hynny yn hanes y deyrnas y telid cymaint parchi allanolion crefydd ag a wnaed yng nghyfnod y Weriniaeth. Perchid dydd yr Arglwydd, cedwid dyddiau ympryd ac ymostyngiad mynych, gofelid am arferiadau cyhoeddus crefydd yn fanwl a chyson. Ni lenwid pwlpudau'r wlad erioed gan alluocach dynion, na rhai mwy difrifol ac ymgyflwynedig. Deil y gweithiau duwinyddol a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw, gan y Tadau Puritanaidd o bob enwad, eu cymharu â chynyrchion rhagoraf unrhyw oes na gwlad.