Ond nid oedd calon y bobl wedi troi oddiwrth wagedd a'r canlyniad fu, pan ddaeth yr hen oruchwyliaeth esgobyddol yn ol gyda Siarl II., torrodd yr hen arferion, oeddent wedi cael eu cronni yn ol o dan ddylanwad awdurdod y Puritaniaid am ddeunaw mlynedd, allan yn ffrydlif o anfoesoldeb i lygru cymdeithas, o lys y brenin i lawr hyd at ffeiriau a gwyl mabsantau'r werin.[1] Yr unig wahaniaeth, o safle foesol a chrefyddol, rhwng y wlad pan esgynnodd Siarl II. a'r hyn a welid yn nyddiau ei dad oedd, fod erbyn 1660 nifer o wahanol ffynonellau o ddylanwadau, addysg, ac egwyddorion purdeb, yn tarddu allan yn ffrydiau byw, iachusol, mewn gwahanol rannau o'r deyrnas, a'r ffrydiau hynny, er yn ymddangosiadol ar y cyntaf wedi ymgolli ym mudreddi llanw mawr llygredd yr oes, eto i gyd yn gweithio yn araf ond yn sicr i buro a phereiddio yr holl ddyfroedd â'r rhai yr ymgymysgent.
Ac eto rhai o grefyddwyr gonestaf y wlad oeddent gyfrifol am adfer Siarl II. i'r Orsedd, a thrwy hynny am agor lif ddorau anfoesoldeb cyhoeddus ar y naill law, ac anoddefiad ac erledigaeth crefyddol ar y llall. Nid gormod yw dweyd mai'r peth olaf a ddisgwyliai'r Presbyteriaid wrth alw Siarl II. i'r Orsedd oedd sefydlu anfoesoldeb yn llys y brenin, a gosod deddf gaethiwus Unffurfiaeth ymhlith cyfreithiau'r deyrnas. Ac eto dyna a fu canlyniad yr hyn a wnaethant. Cymerasant yr hyn a dybient hwy oedd yn bob rhagofal. Cyn galw Siarl yn ol i Loegr o'r Cyfandir lle yr oedd wedi ffoi, aeth nifer o weinidogion Presbyteraidd ato er dod i ddealltwriaeth âg ef pa beth a wnai pe y cai'r goron ar ei ben. Addawodd yntau bopeth iddynt ar a geisient ganddo. Penododd nifer o honynt
- ↑ "Meddwodd y wlad ar adferiad yr hen oruchwyliaeth. Ail godwyd Trostan Mai yn y pentrefi; llifai'r ddiod fel cynt yn neuadd y sgweier; chwareuai'r gwladwyr eu campau ar y comyns; nid oedd ofn y gosb mwyach ar y meddwyn; ail-agorwyd y chwareudai yn Llundain; ac âi cwmniau teithiol o'r chwareuwyr drwy'r wlad."—Knight."Aeth yr holl genedl yn wallgof gan lawenydd. Llifai'r ddiod feddwol yn y cwteri. Croesawid aelodau Presbyteraidd yr hen Senedd gan fanliefau cymeradwyol y torfeydd. Ni feiddiai arweinwyr yr Anibynwyr mwyach ddangos eu hwynebau ar yr heolydd."—Macaulay.