Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gaplaniaid iddo ef—mesur o ryddfrydigrwydd nad oes na brenin na brenhines ar ei ol wedi ei efelychu. Addawodd esgobaethau i nifer o honynt, a goddefiad crefyddol i bawb. A rhag y tybiai neb mai eu twyllo yr oedd, gyrrodd allan led-led y deyrnas y mynegiad hanesyddol hwnnw a adwaenir fel "Cyhoeddiad Breda" (The Declaration of Breda").

Ymhlith y pethau a addawodd Siarl yn y cyhoeddiad hwn, nodaf

I. Yn wleidyddol—maddeuant am bob troseddau blaenorol yn erbyn y goron, a hawl i'r Senedd benderfynnu cwestiynau yn dal perthynas ag eiddo tirol.

II. Yn grefyddol—y cai cydwybodau tyner berffaith ryddid, ac na aflonyddid ar neb am ei opiniynau crefyddol, na'i ffurf-wasanaeth mewn addoliad, os na fyddai hynny yn ymyrryd â heddwch y deyrnas.

Gwystlodd Siarl ei air fel brenin y byddai iddo gadarnhau unrhyw ddeddf yn darparu am y pethau hyn, a besid gan Senedd rydd yn Lloegr. Wrth ei weled mor hydrin aeth y gweinidogion Presbyteraidd yn eofn arno, a cheisiasant ganddo wahardd defnyddio'r Llyfr Gweddi na'r Wenwisg yn y gwasanaeth. "Oh na!" ebe Siarl yn ddigon call, "tra 'rwyf yn rhoi rhyddid cydwybod i chwi, yr wyf am gadw fy rhyddid cydwybod fy hun."

Dichon y byddai yn ormod dweyd fod Siarl, wrth wneud yr addewidion pendant hyn, yn bwriadu eu torri. Ac eto nis gellir ei ryddhau o'r cyfrifoldeb am eu torri—canys eu torri a wnaed o fewn blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad. Os sylwir, mae addewid Siarl yn ymddibynnu ar yr hyn a wnai y Senedd. Os caniatäi'r Senedd y pethau a addawai efe, ymgymerai yntau gadarnhau hynny. Ni ddaeth i galon y Presbyteriaid i amheu am foment na fyddai'r Senedd yn barod i wneud hyn. Yr oeddent hwy a'r Anibynwyr, rhyngddynt a'u gilydd, wedi dal y Senedd yng nghledr eu llaw am yn agos i ugain mlynedd, ac ni ddychmygent mai arwynebol, wedi'r cwbl, oedd llawer o'r dylanwad ymddangosiadol oeddent wedi ennill ar y wlad. Ac eto felly y bu. Pan eisteddodd Senedd gyntaf Siarl, dymchwelwyd holl obeithion y Presbyteriaid, a gwelodd y craff ar unwaith nad oedd Cyhoeddiad Breda mwyach yn werth y papur yr ysgrifennwyd ef arno.

Eithr ni chanfu'r Presbyteriaid hynny ar y cyntaf. Yr