Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Esgobaeth) a'r Esgob mewn rheoleiddio gwaith yr esgobaeth; buasai pawb at eu rhyddid i arfer neu beidio arfer y defodau; adolygid y Llyfr Gweddi, ac ni fuasai raid ei ddefnyddio; adnewyddid yr addewid o ryddid cydwybod i bawb.

Fel prawf sylweddol o'i onestrwydd yn y mater, cynygiodd Siarl Esgobaeth Henffordd i Baxter; Coventry a Lichfield i Calamy; Carlisle i Gilpin; a Norwich i Reynolds. Neillduid yn yr un modd dair Deoniaeth gyfoethog i eraill o'r blaid. Gwrthodasant oll ond Reynolds. Nid am nad oeddent yn foddlon derbyn swydd ar yr amodau hynny, ond am nad oedd y Cyhoeddiad yn ddeddf hyd nes y'i cadarnheid gan y Senedd. Yn awr y gwnaeth Baxter gamgymeriad mawr ei oes. Deffrodd y dadleuydd—ac aeth y diplomydd i hepian. Yn lle derbyn Cyhoeddiad y Neuadd Wen fel ernes o bethau gwell yn y dyfodol, aeth Baxter i'w feirniadu. Gwelodd plaid yr Eglwys eu mantais. Pan ddygwyd mesur i'r Senedd i gadarnhau y Cyhoeddiad, gwrthwynebid ef gan yr Esgobion—a thaflwyd ef allan. Collodd Baxter yr unig gyfle a gafodd erioed i allu dylanwadu ar Eglwys Esgobaethol Lloegr yn llesol oddifewn iddi. Gyrrodd yr Esgobion, yn cael eu harwain gan Sheldon a Morley, gerbyd deddfwriaeth ataliol yn chwyrn o hyn allan.

Un o'r deddfau cyntaf a basiwyd oedd un yn darparu am adfer i'w bywiolaethau y clerigwyr hynny a drowyd allan o'r flwyddyn 1642 hyd 1659. Ond os oedd neb o'r cyfryw naill ai wedi cydsynio â gwaith y Gwerinwyr yn profi a dienyddio Siarl I., neu yn Wrth-Faban-Fedyddwyr, cauid hwynt allan o freintiau'r ddeddf. Felly cawn y Bedyddwyr yn unig, o'r Enwadau Ymneillduol, yn cael eu rhestru gyda'r teyrn fradwyr[1]—tra y caniateid i glerigwyr o foesau llygredig cydnabyddedig feddiannu eu lleoedd.

Cymerodd y wlad yr awgrym oddiwrth y Senedd, ac yn Exeter yn unig erlynwyd 40 o weinidogion am beidio darllen y Llyfr Gweddi yn y gwasanaeth.

Y flwyddyn ganlynol, 1661, pasiwyd Deddf y Corfforiaethau, yn gofyn gan bob ustus a swyddog mewn tref i ymwrthod a'r "Cyfamod," i dyngu ffyddlondeb i egwyddor ufudd-dod goddefol,—a'u gwneud yn amod swydd eu bod wedi cyfranogi o Swper yr Arglwydd yn ol defod Eglwys Loegr, o fewn blwyddyn cyn eu hetholiad.

Gwelir mai dechreu dadwneud gwaith y deugain mlynedd blaenorol o ymdrech am ryddid, oedd tuedd yr holl bethau hyn. Gan

  1. 12 Car II., cap 17. Gibson's Codex, pp. 1070—1074.