Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nag a ddaeth i ran Vavasor Powel. Yna, wedi dechreu cael blas ar erlid, dyfeisiodd yr erlidwyr ddeddfau newydd a wnaent y gwaith o ormesu yn rhwyddach a mwy effeithiol. O fewn corff pedair blynedd, pasiwyd Pedair Deddf a anelid yn uniongyrchol yn erbyn y Crefyddwyr Cydwybodol, gyda'r amcan ynghyntaf o'u gyrru o'r Eglwys os na phlygent i'w defodau; ac yna, wedi eu troi o'r Eglwys, eu gwneud yn amhosibl iddynt fwynhau nag ordinhadau crefydd na breintiau dinesig. Adwaenir y Pedair Deddf gan haneswyr fel Deddfres Clarendon (The Clarendon Code). Cynhwysai'r Ddeddfres Ddeddf y Corfforiaethau, 1661; Deddf Unffurfiaeth, 1662; Deddf y Cyrddau, 1664; a Deddf y Pum Milltir, 1665. Yn ddiweddarach, cafwyd hefyd ail-adroddiad o Ddeddf y Cyrddau yn 1670, a Deddf y Prawflwon yn 1673.

DEDDF Y CORFFORIAETHAU. O dan y ddeddf hon nis gallai unrhyw Anghydffurfiwr fod yn Ustus Heddwch, na dal swydd o unrhyw fath o dan unrhyw gorfforiaeth. Dyna amddifadu'r Ymneillduwr Lleygol o swydd o dan y Wladwriaeth.

DEDDF UNFFURFIAETH. O dan y ddeddf hon nis gallai unrhyw glerigwr na chydffurfiai ymhob dim â defodau Eglwys Loegr, neu na amlygai gydsyniad llwyr â holl athrawiaethau'r Llyfr Gweddi, ddal bywoliaeth Eglwysig. Cauwyd yr ysgolion preifat a chyhoeddus yn ei erbyn ar yr un pryd. Dyna amddifadu'r Pregethwr o'i swydd a'i foddion cynhaliaeth.

DEDDF Y CYRDDAU. Amcan y ddeddf hon oedd rhwystro'r pregethwyr a drowyd allan, i gasglu cynulleidfaoedd ar wahan i'r Eglwys. O dan y ddeddf hon yr oedd peidio mynd i'r Eglwys yn drosedd cosbadwy; ac yr oedd cynnal cyfarfod crefyddol o unrhyw fath o'r tu allan i'r Eglwys, hefyd yn drosedd cosbadwy. Os ceid cynifer a phump o bersonau dros 16 oed yn cynnal cwrdd gweddi, neu gyfeillach grefyddol, neu yn gwrando pregeth, yr oedd pob un o honynt yn agored i ddirwy o £5, neu dri mis o garchar, am y trosedd cyntaf; £10, neu chwe mis o garchar am yr ail; £100, neu alltudiaeth dros y môr am saith mlynedd, am y trydydd. Yr oedd deiliad y ty lle y cynhelid y cyfarfod, yn agored i'r un gosb, pe na bae ef ei hun yn bresennol. Petae gwraig yn mynd i'r cwrdd, heb yn wybod i'w gwr, cosbid ef am ei throsedd hi.[1]

  1. Documents relating to the Settlement of the Church of England in 1662. 477—480.