10. Yn cau pob swydd gyhoeddus yn erbyn y pregethwr a'r lleygwr Anghydffurfiol.
Amhosibl yw sylweddoli maint y dioddefaint a ganlynodd gosod y deddfau hyn mewn gweithrediad. Cyfrifir fod 60,000 o bersonau gwahanol wedi gorfod dioddef naill ai garchar neu ddirwy; fod gwerth dwy filiwn o bunnau o eiddo Ymneillduwyr, wedi cael ei gymeryd oddiarnynt o fewn corff tair blynedd; fod 5000 o ddynion gonestaf a mwyaf cydwybodol y deyrnas wedi marw yng ngharchar, a 3000 arall wedi marw fel canlyniad yr hyn a ddioddefasant.[1] Llanwyd y carcharau â dynion da, a'r pwlpudau â dynion anghymwys.[2] Dielid lid personol, a gwnaed pob anghyfiawnder, o dan gochl y gyfraith. Dirwyid yr un personau dair, pedair, a phum gwaith heb eu dwyn erioed o flaen unrhyw lys. Ped apelient at yr ustus heddwch, caent eu bod yn apelio at un oedd wedi cael y swydd am ei fod yn elyn anghymodlawn iddynt. Pe cymerent gyfaill i'w cyfrinach, dichon mai cyhuddwr dirgelaidd a fyddai, a dderbyniai rhan o'r ddirwy a godid arnynt, fel tâl am achwyn yn eu herbyn. Cyfeirid llid y gelynion at y marw yn ogystal a'r byw. Mewn gair, nid oedd unrhyw anfadwaith yn rhy greulawn i'w gyflawni o dan gochl crefydd ac o dan gysgod y gyfraith. Rhoddaf engraifft neu ddwy, er darlunio cyflwr y wlad.
Yn Llangollen preswyliai boneddwr o'r enw Cadben John Williams. Anghydffurfiwr o ran argyhoeddiad, Bedyddiwr o ran enwad, yr oedd yn dal safle mor gyfrifol fel y bu yn Uchel Sirydd. O dan y deddfau a nodwyd collodd bob swydd, a'i sedd ar y fainc ynadol. Pan fu farw, claddwyd ef ym mynwent y plwyf—ond ni chai ei gorff orffwys yno. Aeth ei erlidwyr yno, agorasant y bedd, tynnwyd y corff allan, a thaflwyd ef ar y glaswellt. Trannoeth daeth ei berthynasau yno, cludasant y corff adref, a chladdwyd ef drachefn yn yr ardd yn ymyl ei dy.[3]
- ↑ Neal, vol. ii., pp. 757—760.
- ↑ Dywed ysgrifennydd o'r cyfnod hwnnw fod "3000 wedi cael eu penodi i fywiolaethau pan oeddent yn rhy ieuanc i bregethu; fod 1500 o ddynion a arweinient fywydau anfoesol, wedi cael eu hordeinio; a llawer eraill o rai hollol anllythrennog." (Gwel Cornish Hist. of Noncons., p. 109.)
- ↑ Cambro British Biography, pp. 152, 162.