Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

poblog yn unig, ond ynghanol unigedd gwledig hefyd, yr oedd braw ac arswyd wedi meddiannu'r bobl. Nodaf un engraifft yn unig, yn dal cysylltiad ag ardal ac â theulu enwog ymhlith Diwygwyr Cymru.

Yn ymyl pentref Llangeitho saif amaethdy henafol Llwyn Rhys. Yn nyddiau Cromwell preswyliai John Jones a Marged ei wraig yno. Yr oedd y teulu wedi dod o dan ddylanwadau Ymneillduol, John Jones ei hun yn bregethwr cynorthwyol, a'i frawd Dafydd Jones, wedi cael addysg yn Rhydychain yn un o'r 2500 a drowyd allan yn 1662. Chwaer i'r ddau frawd hyn oedd mam yr enwog Phylip Pugh. Ond er mai Puritanaidd ac Ymneillduol oedd holl nodwedd y teulu, perthynai iddynt un ddafad ddu, mab afradlon, etifedd Llwyn Rhys, Dafi'r mab hynaf, canwyll llygad Marged, ac unwaith gobaith ond bellach gofid calon John Jones. Wedi methu dygymod â bywyd tawel Puritanaidd Llwyn Rhys, yr oedd Dafi wedi rhedeg bant," ac ambell si wedi cyrraedd ei ardal enedigol ei fod wedi dilyn y Tywysog Siarl i wlad estronol. Pan ddaeth y Tywysog Siarl yn frenin, daeth tro ar fyd, ac erlid ar yr Ymneillduwyr, a phregethu a chynnal cyrddau yn waith tra pheryglus. Eto parhaodd yr hen John Jones, Llwyn Rhys, i gyflawni ei ddyledswydd yn gyson fel gweinidog ffyddlon. Ond un diwrnod gwelodd gwr Lletem-ddu, cymydog i John Jones, un mewn dillad milwr yn dod ar gefn march gwyn dros Bensarn Helen, ac yn cyfeirio tua Llwyn Rhys. Deallodd mai dod i ddal neu ladd John Jones yr oedd, a rhedodd y cymydog ar draws y caeau i rybuddio y pregethwr. Yn ffodus yr oedd John a Marged yn y tŷ, ac nid hir y buwyd cyn cytuno ar gynllun. Yr oedd wyneb y ddaear wrth dalcen uchaf y tŷ, agos cyfuwch a'r llofft, a drws i fyned oddiallan i'r llofft er cyfleustra i gario'r ŷd yno wedi ei nithio. Gyrrodd Marged ei gwr i'r llofft i ymguddio, tra'r clai hi allan i'r buarth i gyfarfod y milwr. Trefnodd arwydd neillduol â'i gwr, modd y gallai hwnnw gael cyfle i ffoi drwy ddrws y llofft, os mai i'w ddal yr oedd y milwr wedi dod. Allan a hi a'i hosan a'i gwewyll yn ei llaw, tra John yn gorwedd ar lawr y llofft yn gweled drwy dwll beth oedd yn cymeryd lle rhwng ei wraig a'r milwr. Ni fedrai glywed yr ymddiddan, ond gwelodd ei wraig, ar ol siarad gair a'r milwr, yn gwynnu fel y galchen, a'r milwr yn llamu oddiar ei farch ac yn ymaflyd ynddi. Gan dybio mai ymosod ar yr hen wraig yr oedd y milwr, llamodd John Jones ar ei draed ac allan drwy ddrws y llofft tuag atynt gan waeddi, "Peidiwch lladd yr hen wraig! Rhoddaf fy hun i fyny!" Rhuthrodd at y milwr, oedd erbyn hyn â'i fraich am ganol yr hen wraig, a'i phen hithau megis mewn llewyg ar ei fynwes. Trodd at John Jones, a dywedodd, "Nhad!" A chyda'r gair adnabu John Jones ei