yn Llundain wedi cymeryd mesurau i orfodi'r Maer a'i gorfforiaeth i osod y gyfraith mewn grym, canys cawn yr un gohebydd ymhen mis yn dweyd fod "Y Maer wedi rhoi gorchymyn i dynnu i lawr bwlpud a meinciau y Bedyddwyr, ac i gloi'r lle i fyny." Ond ni thyciodd hyn, canys "Boreu Sabath yn blygeiniol iawn, torrwyd y drysau cloedig yn agored, ac aeth y Bedyddwyr yn ol at eu hen ystranciau drachefn. Pan aethom (y swyddogion) at dy cwrdd y Presbyteriaid, methasom fyned i mewn; yr oedd y rhai oddi mewn mor gyndyn fel nad agorent y drws."[1] Adgoffeir ni o rai o ddigwyddiadau Rhyfel y Degwm diweddar yng Nghymru gan rai o'r adroddiadau swyddogol a yrrwyd o'r wlad at yr awdurdodau yn Llundain. Wele engraifft:—
"Euogfarnwyd ugain o dai-cyrddwyr gennyf ym mis Hydref diweddaf. Apeliodd un o honynt yn erbyn y ddedfryd yn y frawdlys hon,—eithr buom mor ofalus a chawsom reithwyr mor dda fel, mewn llai nag awr, dygwyd rheithfarn i mewn o blaid y brenin. Eithr cymaint yw haerllugrwydd y blaid hon (yr Ymneillduwyr), ac mor benderfynnol ydynt i ddychrynu pawb rhag troi yn achwynwyr arnynt am gynnal eu cyfarfodydd terfysgus, fel mai prin yr oedd y llys wedi codi, nag y cymerasant yr achwynwr i'r ddalfa ar bump o gyhuddiadau gwahanol. Rhaid fod traul yr achosion hyn yn ddigon i ddifetha amgylchiadau dyn tlawd—yn wir nis gallai dyn cyfoethog fforddio ymladd yn erbyn arian unedig y bobl hyn."
Cynllun arall a fabwysiadai'r Ymneillduwyr pan y gosodid dirwy drom arnynt am gynnal cyfarfodydd crefyddol, oedd i'r troseddwr aros yn ei gartre, ond gyrru ei holl eiddo dros y terfynnau i sir arall. . . Pan ddeuai'r swyddogion i'w fferm—nid oedd yno anifail i'w gael; ac er y gwyddid pa le yr oeddent wedi myned, nis gellid atafaelu arnynt mewn sir arall, gan nad oedd y troseddwr wedi ffoi yno.[2]
Dychrynnodd y blaid Eglwysig gymaint, fel y penderfynasant wneud y gyfraith yn fwy caeth nag erioed yn erbyn yr Ymneillduwyr. Tybient ei bod yn rhy ddrwg fod achwynwr diniwed(?) yn gorfod dioddef yn lle cael ei wobrwyo am fradychu ei gymydogion crefyddol. Dygwyd Mesur i fewn i'r Senedd i'r perwyl hynny yn Ebrill, 1671. Pasiodd drwy Dy'r