Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y gwynt yn chwythu, a dygwyd mwy o fywiogrwydd ac o eofndra i'w gweithrediadau. Adeiladwyd nifer o dai cyrddau, yn enwedig yn y trefi. Pan yrrid atynt, dan gochl cyfeillgarwch, i'w cynghori i roi heibio torri'r ddeddf yn gyhoeddus, chwarddent am ben y cyngor—gan wybod mai nid eu lles hwy ond diogelwch y llywodraeth oedd yn gwasgu ar feddwl y swyddogion. Bygythid gyrru milwyr i gau'r tai cyrddau, ac i gymeryd y pregethwyr a'r cynulleidfaoedd i'r carchar. Ond gwyddai y rhai a fygythid na feiddiai'r awdurdodau gario'r bygythiad allan, rhag ofn y bobl y rhai a bleidient y pregethwyr Ymneillduol. Erbyn dechreu Ionawr, 1671-2, yr oedd yr Ymneillduwyr wedi magu digon o galon i gyfarfod â'u gilydd er ymgynghori pa fesurau a gymerasid ganddynt tuag at ail sicrhau eu hawl i gynnal eu cyfarfodydd yn agored. Awgrymwyd i'r brenin y gallai adgyfodi y cynllun a gynygiodd ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad (gwel tud. 139)—gyda'r cyfryw gyfnewidiadau ag a fernid yn angenrheidiol i gyfarfod âg amgylchiadau newydd yr oes. Y cynllun a awgrymid gan rai oedd taflu drysau'r Eglwys Wladol led y pen, modd y gallai'r rhai a drowyd allan yn 1662 ddod yn ol drachefn. Gwrthwynebid hyn o du'r Eglwys ac o du'r Ymneillduwyr. Nid cael eu cynnwys yn yr Eglwys oedd dymuniad yr Ymneillduwyr mwyach, ond cael rhyddid o dan y gyfraith i addoli Duw yn ol eu cydwybod eu hunain. Nid oedd yr ymdrafodaeth yma i gael ei wneud yn gyhoeddus rhag codi gwrthwynebiad yn y Senedd neu o du'r esgobion. Sylwer ar y dyddiadau canlynol:—

Diwedd Ionawr, 1671-2, hysbyswyd y brenin fod y pregethwyr yn Llundain yn gwrthod addaw peidio cynnal eu cyfarfodydd—a bod y bobl tu cefn iddynt.

Mawrth 6. Gorchymynnwyd cyhoeddi rhyfel yn erbyn Llynges yr Iseldiroedd. Yr un dydd siaradwyd am y tro cyntaf yn y Cyngor am Gyhoeddi Maddeuebau i'r Ymneillduwyr.

Mawrth 14. Cytunwyd yn y Pwyllgor Tramor ar eiriad y Cyhoeddiad Brenhinol o Faddeuebau i'r Ymneillduwyr.

Mawrth 15. Pasiwyd y Cyhoeddiad gan y Cyngor a chyhoeddwyd ef.