Yn y weithred hon, Cyhoeddiad Maddeuebau (Declaration of Indulgence), dyddiedig Mawrth 15, 1672, dywed Siarl:—
"Nad oedd y mesurau gorfodol oedd wedi bod mewn grym am ddeuddeng mlynedd i sicrhau Unffurfiaeth mewn crefydd, wedi dwyn ond ychydig ffrwyth; fod ei Fawrhydi felly yn gweithredu ar ei awdurdod fel Pen yr Eglwys, i sicrhau heddwch y deyrnas a chysur ei ddeiliaid, drwy gyhoeddi fod Eglwys Loegr i aros fel y mae yn bresennol, pawb i dalu'r degwm iddi, a neb i ddal swydd o'i mewn os na fydd yn cydffurfio; ond fod pob cyfreithiau penydiol yn erbyn yr Anghydffurfwyr i gael eu hatal, a bod nifer o leoedd yn cael eu trwyddedu fel lleoedd addoliad i'r Anghydffurfwyr, ond nad oedd y cyfryw i gael pregethu. mewn lleoedd anrhwyddedig, nac i bregethu terfysg na gwrthwynebiad yn erbyn yr Eglwys."[1]
Creodd Cyhoeddiad y Maddeuebau gynnwrf mawr drwy'r deyrnas. Cafwyd yn fuan brawf diamheuol fod Ymneillduaeth wedi lefeinio'r holl wlad. Yn y trefi mawr darfu i'r Corfforiaethau Masnachol (nid anhebyg i Undebau Llafur ein dyddiau ni) ganiatau eu hystafelloedd swyddogol hwy at wasanaeth y gweinidogion Ymneillduol. Ymhen wythnos ar ol Cyhoeddi'r Maddeuebau, danfonwyd deisebau i fyny at y brenin o bob rhan o'r deyrnas, yn diolch iddo am ganiatau rhyddid cydwybod i'r Ymneillduwyr. O un sir yn unig—Dyfnaint—arwyddwyd y ddeiseb gan 72 o weinidogion Ymneillduol, a cheir deisebau siroedd eraill yn cynnwys enwau niferi mawrion. Ceisiwyd am, a rhoddwyd, dros 3500 o drwyddedau pregethu. Weithiau arwyddai aelodau'r Eglwys Ymneillduol eu henwau wrth y ddeiseb—a gellir barnu wrth nifer yr enwau rifedi'r Eglwysi. Er engraifft, mae dros 160 enwau wrth ddeiseb diolch cynulleidfa John Flavell, o Dartmouth. Ceir enwau hanesyddol ymhlith y rhai a gawsant drwyddedau, megys Dr. Thomas Goodwin, John Flavell, Edmund Calamy; ac ymhlith y Cymry, Dr. John Owen, Phylip Henry, Samuel Jones, Brynllywarch; Stephen Hughes, Mydrim; Hugh Owen, Bronyclydwr, &c. Dyddorol yw gweled enw John Bunyan ymhlith y rhai a geisient drwyddedau. Wedi
- ↑ Gwel Y Memrwn, S. P. Dom., Car. II., Case F., No. 1.