Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenhedlaeth ar ol hyn gymaint ag un Eglwys yng Nghymru yn galw ei hun yn Bresbyteraidd,—a gorfodir ni i ddod i'r casgliad fod y rhai a elwid yn "Bresbyteriaid" yn y trwyddedau i Gymru, i bob diben ymarferol, yn gyfryw ag a elwid heddyw yn "Anibynwyr." Profir fod y golygiad a gymerir yma yn hanesyddol gywir, gan y ffaith fod awduron goreu Lloegr yn dweyd yn ymarferol yr un peth am Gymru a Lloegr. "Yng Nghymru," ebe Dr. Vaughan (English Nonconformity, p. 354), "cymerodd llywodraeth Eglwysig ffurf Anibyniaeth i raddau nodedig." "O 1662 hyd 1688," medd Solly (Our English Presbyterian Forefathers, p. 25) cariai'r Presbyteriaid Seisnig eu gwaith ymlaen o angenrheidrwydd ar Egwyddorion Anibyniaeth." Dywed awdwr arall (Hunter): "Yr oedd yr erlid, i'r hwn yr oeddent yn agored, yn ei gwneud yn amhosibl, neu yn anoeth, iddynt geisio gario allan ddisgyblaeth Presbyteraidd. A phan, ymhen blynyddau, yr oedd Deddf Goddefiad yn caniatau iddynt weithio'r gyfundrefn honno, yr oedd eu dyddordeb mewn Presbyteriaeth wedi marw—ac, yn wir, ni fu erioed yn gwestiwn byw ganddynt" (History, Opinions, &c., of the English Presbyterians, p. 11). Yn wir, ymhell cyn hyn yr oedd yr enw "Presbyteriaid," yn Lloegr a Chymru, wedi colli yr ystyr a roddid—ac a roddir eto—iddo yn yr Ysgotland. Nid oedd y gair yn dynodi, yn Lloegr, ymlyniad wrth y ffurf Henaduriaethol o lywodraeth Eglwysig, ond cynhwysai bawb o'r Diwygwyr Crefyddol na ddymunent ymneillduo o'r Eglwys. Felly, pan orfodwyd hwynt i ymneillduo, ymunasant yn dra chyffredin a'r Anibynwyr, gan fabwysiadu eu ffurf-lywodraeth Eglwysig hwy. ("Our English Presbyterian Forefathers," "History, Opinions, &c., of the English Presbyterians," &c., &c.) Nid oes angen ymhelaethu.

Wele ddadansoddiad o'r rhestr o dan y gwahanol siroedd:—

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
SIR. Anibynwyr Pres. Bap. Cyfanrif. Cyfanrif Deddf Unffurfiaeth. Pregethwyr gwahanol. Tai gwahanol. Dim Preg. neillduol. Dim tŷ neillduol.
Aberteifi 9 0 0 9 13 4 9 0 0
Brycheiniog 5 0 1 6 6 4 2 0 3
Caerfyrddin 4 0 3 7 11 4 7 0 0
Caernarfon 5 2 0 7 1 5 5 0 2
Dinbych 11 2 0 13 12 6 12 3 0
Fflint 1 5 0 7 5 4 5 0 2
Maesyfed 8 2 1 11 5 6 9 3 1
Meirionnydd 5 0 0 5 1 1 5 0 0
Mon 0 0 0 0 0 0 0 0 0
Morgannwg 15 7 5 27 30 13 24 3 0
Mynwy 20 0 7 30 15a 16 26 5 4
Penfro 3 0 0 3 11 2 3 0 0
Trefaldwyn 2 5 0 8 15 2 7 5 0
Cyfanswm 88 23 17 133 125 67 114 19 12
Swm An + Pres 111

Mewn pump amgylchiad ni nodir yr enwad.

a Dylaswn fod wedi nodi ynglyn a'r rhestr (tudal. 152) o'r rhai a drowyd allan yn sir Fynwy, ei bod yn fwy na thebyg mai'r un yw "George Robinson, Caerlleon," a "Robins, Llangatog;" yng Nghaerlleon y saif Eglwys Plwyf Llangatog.