Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am aml i hen amaethdy ar lechweddau bryniau Cymru, gallesid dweyd yn llythyrennol ddau can mlynedd yn ol, "Nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd!" Arferai'r Patriarchiaid gynt adeiladu allor i'r Arglwydd yn ymyl y fan lle y gosodent eu pebyll; arferiad Patriarchiaid Ymneillduol Cymru. oedd codi allor i'r Arglwydd fel rhan hanfodol o'r ty a adeiladent iddynt eu hunain. Yn y cyfryw dai yr oedd ystyr mwy arbennig i'r "allor deuluaidd" nag a roddir i'r gair heddyw. Yr oedd cysylltiad yr "allor" a'r "ty" yn dod yn beth hanfodol. Pa ryfedd fod y cenedlaethau a godwyd o dan y fath amgylchiadau, yn gwneud yr "allor" a'r "gwasanaeth" teuluaidd yn rhan hanfodol o'u crefydd, hyd yn oed y teuluoedd hynny lle nad oedd y ty hefyd yn gapel. Ac am y pwlpud, yr oedd hwnnw hefyd, yr un modd, yn cael ei wneud yn rhan hanfodol o ddodrefn y tai a ddefnyddid gynt fel capeli,—canys. o'r cychwyn cyntaf rhoddid y lle amlycaf i'r bregeth yn y gwasanaeth Anghydffurfiol. Yr arferiad oedd gwneud pwlpud symudol, a allesid ei osod i fyny yn ei le priodol pan fyddai oedfa i'w chynnal yno,—ac i'w droi yn barchus heibio, gyda thrysorau goreu eraill y teulu pan na fyddai ei eisieu. Yn yr haf, cynhelid y cyfarfodydd yn aml yn yr awyr agored—a threfnid lle i'r pwlpud o dan gysgod coeden gaeadfrig, tra'r gynulleidfa'n gylch o gwmpas; ac yn aml disgynnai'r gwlith nefol i galonnau'r gwrandawyr ar yr un pryd ag y disgynnai'r gwlith naturiol ar eu pennau. Ac os na pherthynai gwychder addurnol pwlpudau'r oes bresennol i bwlpudau'r Tadau, yr oedd iddynt addurniadau eraill a'u gwnaent yn gysegredig yngolwg y rhai a wrandawent ar yr hyn a ddysgid o honynt.

Yr oedd llawer o ramant yn gysylltiedig âg Ymneillduaeth foreuol—ac nid oedd y rhamantus bob amser yn ddymunol. Golygai teithio'r milltiroedd meithion ar hyd ffyrdd geirwon neu lwybrau anhygyrch, ar ystormydd a gwlaw neu ynghanol rhew ac eira, aberth na cheid ond ychydig yn yr oes hon yn barod i'w wneud er mwyn mynychu cyfarfod pregethu neu weddi. Mae amledd ein cyfleusderau crefyddol yn yr oes hon,