Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ein tueddu i'w dibrisio, fel y dibrisir gennym gyfleusderau beunyddiol eraill a dybid gan ein tadau yn freintiau amhrisiadwy. Ymgynhullai crefyddwyr yr oes honno yn aml ar bennau'r mynyddoedd, neu yn llythyrennol, megys yn yr oes Apostolaidd, yn nhyllau ac ogofeydd y ddaear, er dianc rhag llid y gelynion.

Ceidw traddodiad yn fyw hyd y dydd heddyw yr hanes am Stephen Hughes ac Ogof Cwmhwplin. Un Llun Pasg, tra roedd Apostol Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i gyfarfod â'i Eglwys a gyfarfyddent yn ddirgel yn Ogof Cwmhwplin ger Llandysul, a phan yn pasio pentref gwledig ar y ffordd, gwelodd bobl ieuainc y pentre yn difyrru eu hunain â'r chwareuon oeddent eto'n boblogaidd yng Nghymru. Yr oedd yn eu plith un gwr ieuanc a gydnabyddid ymhell ac yn agos fel arweinydd ymhob chwarae a direidi. Wedi sylwi ar yr olygfa am ennyd, cafodd Stephen Hughes gyfle i siarad â'r gwr ieuanc, ac eb cfe wrtho, "Os deui gyda mi dros y mynnydd mi a ddanghosaf iti ddifyrrwch gwell nag a gei yma!" Yn awyddus i gael rhyw brofiad newydd, ac o bosibl i ddysgu rhyw gamp newydd a brofai unwaith eto ei hawl i fod yn flaenor ymhlith ei gyfoedion, cydsyniodd y llanc; a cherddodd wrth ochr Stephen Hughes mewn ymgom ddifyr, tan y cyrhaeddwyd yr ogof lle roedd. cynhulliad mawr yn eu disgwyl. Synnodd y gwr ieuanc i weled cynifer o bobl yn y fath le, a throdd at ei arweinydd i ofyn beth a olygai hyn oll. Mewn atebiad iddo dechreuodd Stephen Hughes y gwasanaeth yn ddiymdroi, ac mor ddwys y gweddiodd ar ran y gwr ieuanc, ac mor rhyfedd fu profiad hwnnw yn dod o ganol chwareu ysgafn, ac o bosibl anuwiol, i ganol cynhulliad mor ddifrifol, fel y trodd o'r dydd hwnnw allan i fod yn un o grefyddwyr mwyaf selog ei ardal. Cariodd gydag ef i'r byd crefyddol yr un dylanwad ag a feddai yng nghylch chwareuon yr ieuenctyd, a daeth yn un o gymeriadau disgleiriaf Eglwys helaeth Apostol Sir Gaerfyrddin.

Felly ymhob cylch perthynol i waith crefydd, gwahaniaethai amgylchiadau'r oes honno yn hanfodol oddiwrth yr hyn a welir yn ein dyddiau ni; a rhaid sylweddoli'r gwahaniaeth hwn, pan y ceisiwn fesur maint a gwerth gwasanaeth Diwygwyr Cymru i'w gwlad.

Nodiadau

[golygu]