PENNOD XV.
HEULWEN A CHWMWL.
Os mai fflach o oleuni trydanol ynghanol tywyllwch dudew'r nos, oedd Maddeuebau Siarl II., llewyrch cynnes haul, yn torri trwy'r cwmwl liw dydd, oedd Deddf Goddefiad William III. Ond cofier, os mai heulwen oedd, heulwen drwy'r cymylau ydoedd, canys yr oedd cymylau yn wybren Ymneillduaeth cyn ac ar ol pasio Deddf Goddefiad. Heb fynd i fanylu ar yr amgylchiadau, digon yw dweyd yma fod Maddeuebau Siarl II. wedi cael eu galw yn ol; fod deddfwriaeth orthrymus bellach wedi cael ei dwyn i fewn; fod Deddf y Prawflwon wedi cael ei phasio; fod y deddfau gorthrymus eraill eto'n aros mewn grym, ac yn cael eu cario allan pa le a pha bryd bynnag y beiddid;[1] fod Iago'r II., ac yntau'n Babydd cydnabyddedig, wedi cynnyg Maddeuebau tebyg i eiddo ei frawd Siarl ond yn bennaf er mwyn ffafru'r Pabyddion, a hyrwyddo'r ffordd iddynt hwy ddod yn ol i feddiant bywiolaethau Eglwys Loegr; a bod Ymneillduwyr Protestanaidd y Deyrnas yn dra chyffredinol wedi gwrthod manteisio ar Faddeuebau Iago.
Yn 1687, ddwy flynedd cyn pasio Deddf Goddefiad, trefnodd yr awdurdodau ddirprwyaeth i chwilio a oedd yr Ustusiaid yn gwneud eu dyledswydd yn y mater, yn arbennig yn y
- ↑ I wneud hyn, cydweithredai'r ynadon â'r Esgobion. Cyhoeddodd un Frawdlys Sirol broclamasiwn yn cynnyg Dwy Bunt o wobr am bob gweinidog Ymneillduol a ddelid yn troseddu unrhyw gyfraith, ac ymrwymodd y llys i gosbi'r cyfryw weinidogion hyd yr eithaf, "yn ogystal a'r neb a absenolant eu hunain o'r Eglwys, neu a fynychant dai cyrddau." Yna ä penderfyniad yr ustusiaid hyn ymlaen yn dra defosiynol i ddweyd:—"Ac fel nad anghofiom freintiau anherfynol Duw Hollalluog, yr ydym yn gorchymyn, trwy gyngor a chydsyniad y Gwir Barchedig Dad yn Nuw, ein teilwng Arglwydd Esgob, i gyfranu £10 at addurno'r capel yn y Castell, a £6 y flwyddyn am bregeth ar ddydd cyntaf y Frawdlys Chwarterol yno, y cyfryw bregeth i fod yn anogaeth i ufudd-dod."—(Dyfynnwyd yn Llawysgrifau Roger Morrice o'r Proclamasiwn a Argraffwyd drwy orchymyn gan J. C. & Freeman Collins, 1683.)