Corfforiaethau. Mae'n amlwg fod rhannau o Gymru, erbyn hyn, wedi dechreu cael eu lefeinio gan ysbryd Ymneillduaeth,. canys wele gyfieithad o'r Adroddiad Swyddogol a yrrwyd yn ol i Iarll Rochester yn Llundain:—
Dywedir nad oes ond ychydig gydsyniad yn y rhannau hynny o Gymru a'r siroedd cymydogaethol a wysiwyd eisoes i ymddangos, er mai Burford yw'r Arglwydd Raglaw, ac er y tybid fod ganddo ef ddylanwad mwy diamheuol yno na neb o'r Arglwydd Raglawiad eraill mewn parthau eraill o'r deyrnas nid yw'r Arglwydd Raglawiaid eto wedi gyrru'r llythyrau allan."[1]
Bydd galw i gof wir sefyllfa Anghydffurfwyr yngwyneb y gyfraith y pryd hwn, yn gymorth ini ddeall y cyfnewidiad a wnaeth Deddf Goddefiad.
Dynion dysgedig, yn ymhyfrydu mewn astudiaeth a llyfrau oedd gweinidogion Ymneillduol yr oes honno. Cauwyd hwynt allan o'r Llyfrfeydd Cyhoeddus, a gorfodid hwynt i werthu eu llyfrau eu hunain. er mwyn prynu bwyd i'w teuluoedd. Cauid hwynt a'u plant allan o'r Prifysgolion—ac yna gwawdid hwynt nad oeddent yn derbyn addysg. Ni chaent wasanaethu yn yr Eglwys: ni chai eu lleygwyr ddal swydd: ni chaent hwythau gadw ysgol. Ped ymgynhullent i addoli yn y tŷ gartref, cosbid hwynt dan Ddeddf y Cyrddau. Pe'r arhosent gartref, cymhwysid deddfau gorthrymus Elizabeth atynt (gwel tudal 24). Pe ceisient noddfa mewn gwlad estronol, rhwystrid hwynt drwy "Orchymyn y Cyngor" (Order in Council) os na fyddai ganddynt dystysgrif oddiwrth offeiriad y plwyf,—neu os mai gweinidogion oeddynt, dystysgrif oddiwrth Archesgob, neu Esgob Llundain. Ar bob tu, cyfyngid ar eu hawliau, eu symudiadau, a'u gweithrediadau.
Dyna eu sefyllfa yngwyneb y gyfraith. Ac eto, o dan y cyfryw amgylchiadau anffafriol, helaethasant le eu pebyll ac estynasant gortynnau eu preswylfeydd. Cyraeddasant y fath ddylanwad, fel, hyd yn oed yng Nghymru, bernid gan yr awdurdodau mewn rhai mannau mai gwell oedd gadael llonydd iddynt.
Yn 1687 cyhoeddodd Iago II. ei Broclamasiwn Maddeuebau cyntaf, a chan na fanteisiodd llawer arno, cyhoeddodd un
- ↑ Roger Morrice's MSS. "Great Entry Books, 1687," vol. ii. 211.