Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pellach yn 1688, yn yr hwn nid yn unig y caniatäi i Anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd, ond tynnai yn ol yr angenrheidrwydd am brawflwon fel cymhwysder swydd. Gorchymynnodd y brenin i'r proclamasiwn olaf hwn gael ei ddarllen ymhob Eglwys blwyf drwy'r deyrnas. Gwrthododd llawer o'r clerigwyr wneud, ac yn eu plith saith o esgobion, ac un o'r saith oedd Dr. William Lloyd, Esgob Llanelwy, yr hwn, cyn hynny, a geisiai ddod i gytundeb â'r Ymneillduwyr yn ei esgobaeth gyda'r amcan o'u cael yn ol i'r Eglwys. Taflodd y brenin y saith esgob i garchar, a chynhyrfwyd yr holl wlad ben—bwy-gilydd. Tra yngharchar ymwelwyd â'r saith esgob gan ddeg o weinidogion blaenllaw'r Anghydffurfwyr, i ddatgan cydymdeimlad yr Ymneillduwyr â hwynt. Trwy wrthod ufuddhau i orchymyn y brenin torrodd yr Esgobion a'r Esgobyddion yn llwyr o dan eu traed eu hunain, y tir oeddent wedi bod yn sefyll yn gyndyn arno er pan ddaeth Iago I. i'r orsedd 80 mlynedd cyn hynny,—sef egwyddor sylfaenol Hawl Dwyfol y Teyrn (gwel tud. 63).

Sylwer ar y pethau canlynol:— <poem> a. Dadleuai'r Esgyboddion ar hyd yr amser dros Hawl Dwyfol y Teyrn. b. Golygai hynny fod y Teyrn yn Ben y Wladwriaeth a'r Eglwys. c. Golygai hynny ei fod yn hawlio ufudd-dod digwestiwn gan Wlad ac Eglwys. d. Golygai fod gwrthwynebu'r Brenin mewn gwlad neu Eglwys yn drosedd. c. Golygai fod cymeryd arfau yn erbyn y Brenin yn bechod an-faddeuadwy. f. Ar sail y pethau hyn y gormeswyd yr Anghydffurfwyr drwy'r blynyddau. g. Trwy wrthod ufuddhau i'r Brenin yn awr, gwadent mewn gweithred yr hyn a ddysgent mewn egwyddor o dan a a b; troseddent yn erbyn c; cyflawnent drosedd d a phechod e; ac felly cydnabyddent yn ymarferol y gallai'r Anghydffurfwyr fod wedi bod yn iawn ar hyd yr holl amser. <poem>

Diwedd yr helynt fu i'r saith Esgob, ar ol prawf cynhyrfus, gael eu cyhoeddi yn ddieuog. Cyfiawnhaodd y llys gwladol felly anufudd-dod i'r teyrn—a lladdodd y gyfraith wladol y bwgan—Hawl Dwyfol y Teyrn—oedd yr Eglwys Wladol eisoes