Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei glwyfo. Cododd teimlad y wlad mor uchel, fel y ffodd y brenin am ei einioes i Ffrainc;—a'i ferch Mari, a'i fab—ynghyfraith William III., a deyrnasodd yn ei le.

Yn awr, yn y digwyddiadau hyn eto, cawn oleuni addysgiadol ar safle a dylanwad Anghydffurfwyr y deyrnas. Yr oedd y Pabyddion a gefnogent Iago II. wedi gosod eu bryd ar ennill ffafr a chefnogaeth yr Ymneillduwyr Protestanaidd, ac wedi sylfaenu eu gobaith am gario'r dydd ar y dybiaeth y caent y gefnogaeth honno.[1] Yr oedd y Protestaniaid hwythau,—y rhai a fynnent y Protestant William, a'i wraig Brotestanaidd Mari, i deyrnasu arnynt yn lle'r Pabydd Iago, hwythau yn chwennych a cheisio ffafr yr Anghydffurfwyr; a danghosodd William yn yr hyn a wnaeth cyn ac ar ol dod i'r orsedd, ei fod yn sylweddoli nerth Ymneillduaeth yn y wladwriaeth. Cyn dod i'r orsedd, cyhoeddodd ei Broclamasiwn Iawnderau (Declaration of Rights), yn sicrhau iawnderau gwladol; a rhoddodd addewid cyfrinachol i arweinwyr yr Anghydffurfwyr y caent hwy a'u cynulleidfaoedd eu diogelu rhag erlidiau am eu daliadau crefyddol;Calamy's Life of Baxter, vol. i., p. 422. wedi dod i'r orsedd, trodd ei Broclamasiwn Iawnderau yn Fesur Iawnderau (Bill of Rights), a mynnodd basio Deddf Goddefiad (Toleration Act)—yn rhyddhau Ymneillduwyr drwy ddeddf Seneddol, am y tro cyntaf erioed, o'r cosbau a fynnai cyfreithiau gormesol ei ragflaenwyr ar yr orsedd, osod arnynt am addoli Duw yn ol eu cydwybodau eu hunain yn lle yn ol ewyllys dyn.

Yn awr gosodir cymaint pwys ar Ddeddf Goddefiad, o dan yr hon y mae Ymneillduwyr eto'n cael addoli yn y wlad hon, fel mai da fydd nodi natur ei darpariaethau.

1. BREINTIAU DEDDF GODDEFIAD.

1. Rhoddodd fodolaeth gyfreithiol i Ymneillduaeth.

2. Goddefai i Ymneillduwyr Protestanaidd addoli yn ol eu cydwybod.

3. Goddefai iddynt reoli eu heglwysi eu hunain yn eu dull eu hunain.

  1. Mae ein gobaith am sicrhau cefnogaeth yr Anghydffurfwyr wedi diflannu," yw yr hyn a ysgrifennai D'Adda, Cenad y Pab yn Lloegr, ychydig ddyddiau cyn ffoedigaeth Iago.