Yn perthyn i'r blaid a fynnai ail osod llyfetheiriau caethiwus am draed yr Ymneillduwyr, yr oedd y frenhines ei hun, y rhan fwyaf o'r clerigwyr, dosbarth helaeth o'r ysweiniaid gwledig, a'r blaid wleidyddol a ddaeth i gael ei galw am y tro cyntaf yn ei dyddiau hi yn Doriaid.
Mae yn deilwng o sylw mai ar y cwestiwn o hawliau gwrthwynebol yr Eglwys ar y naill law a'r Ymneillduwyr ar y llall, y ffurfiodd y pleidiau gwleidyddol a gawsant enw yn ogystal a bodolaeth yn nyddiau Anne. Toriaid a Whigiaid y gelwid hwynt gynt—er y mynnai Anne ei hun alw'r Toriaid "Y Blaid Eglwysig" (The Church Party). "Yr Eglwys mewn perygl! I lawr a'r Dissenters!" oedd gwaedd ac arwyddair y blaenaf. "Goddefiad i'r Ymneillduwyr am fod Protestaniaeth mewn perygl!" oedd arwyddair politicaidd y Whigiaid.
I'r fath eithafion yr aeth Anne yn ei hymdrech i gwtogi rhyddid yr Ymneillduwyr, nes y galwodd Bedyddwyr Cymru ddydd arbennig o Ympryd a Gweddi i ddeisyf am gyfryngiad yr Hollalluog ar ran ei Eglwys erlidiedig;—a phan fu farw Anne, o dan amgylchiadau tra hynod, cyhoeddodd Cymanfa Bedyddwyr Cymru ddydd ei marwolaeth i fod yn Ddydd o Ymostyngiad a Diolchgarwch drwy eu cenedlaethau! Rhaid fod rhywbeth eithriadol yn perthyn i Anne cyn ennill o honi yr hynodrwydd anymunol o fod yr unig un a eisteddodd ar Orsedd Prydain ag y darfu i ran mor bwysig o'r Eglwys Gristionogol gyhoeddi yn swyddogol Ddydd Diolchgarwch am ei marwolaeth!
Mae'r frawddeg "Mor farw a'r Frenhines Anne" (As dead as Queen Anne) er's cenedlaethau wedi mynd yn ymadrodd traddodiadol. Eithr paham yr ystyrrir Anne yn fwy marw na neb arall? Onid am y ffaith fod Bedyddwyr Cymru'r oes honno wedi gweddio ar i Dduw ei symud hi, ac iddi hithau farw ar y dydd a benodwyd i ddwyn deddf newydd a gorthrymus i weithrediad? Dywedir fod yr ysgrifbin yn ei llaw yn barod i dorri ei henw wrth y weithred a wnai'r Mesur Sism yn rhan o Gyfraith y Tir, pan fu farw—a bu farw gyda hi y Mesur gormesol hwnnw, a fwriedid i amddifadu'r Ymneillduwyr o'u rhyddid, ac a'u gosodai yn ol mewn gwaeth caethiwed nag y gruddfannent odditano cyn pasio Deddf Goddefiad! Pa ryfedd, ynte, i Fedyddwyr Cymru gredu mai mewn atebiad uniongyrchol i'w gweddiau hwynt y symudwyd hi; ac