Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt hwy, ac eraill, o'r herwydd, ddechreu dweyd pan symudid rhyw berygl neu arall oddiar y ffordd heb obaith iddo ddychwelyd byth mwy,—ei fod "Mor farw a'r Frenhines Anne!" Ceidw rhai o Fedyddwyr Cymru hyd heddyw y dydd hwnnw yn Wyl Grefyddol flynyddol—er o bosibl na ŵyr ond ychydig ohonynt paham y'i cedwir felly![1]

Dau fesur arbennig a anelid at yr Anghydffurfwyr, sef "Mesur Cydffurfiaeth Achlysurol" (Occasional Conformity Bill) a "Mesur Sism" (The Schism Bill).

MESUR CYDFFURFIAETH ACHLYSUROL. Fe gofir fod rhai o'r deddfau penydiol blaenorol, yn gofyn fod dyn wedi derbyn y Cymundeb yn Eglwys Loegr o fewn blwyddyn o flaen ei benodiad, cyn y byddai'n gymhwys i ddal swydd. Ni theimlid hyn ar y cyntaf yn llawer o galedi. Arferai'r gweinidogion, am flynyddau lawer ar ol eu troi allan o'r Sefydliad, fynd i'r Eglwys i gymuno yn achlysurol. (Arferai'r Methodistiaid a'r Wesleyaid wneud yr un peth hyd o fewn cof rai sydd eto'n fyw).Arferai'm tadcu a'm mamgu, rhieni fy nhad, yn Llangeitho, a hwythau'n Fethodistiaid selog, gymuno gyda'r gweinidogion Methodistaidd yn Hen Gapel Llangeitho, a chyda'r offeiriad yn yr Eglwys—weithiau ar yr un Sul. Gwnai llawer yr un peth.—B. G. E. Felly llwyddai llawer i gadw llythyren y gyfraith, a bod yn aelodau ffyddlon gyda'r Anibynwyr neu'r Bedyddwyr ar yr un pryd. Gosod terfyn ar hyn oedd amcan Mesur Cydffurfiaeth Achlysurol. Darparai os byddai neb a ddaliai swydd o dan y Llywodraeth neu Gorfforaeth, ar ol cymuno yn Eglwys Loegr, yn mynychu capel Ymneillduol, neu mynd i unrhyw wasanaeth crefyddol mewn unrhyw dŷ preifat os byddai yno bump o bersonau heb fod yn aelodau o deulu'r

  1. Am genedlaethau ar ol marw Anne cedwid y dydd cyntaf o Awst bob blwyddyn yn ddydd gwyl grefyddol gan Fedyddwyr Cymru'n gyffredinol. Collwyd yn raddol y wybodaeth am achos ei sefydliad cyntefig; ond hyd heddyw cedwir y dydd eto'n ddydd gwyl neu weddi gan nifer o Eglwysi Bedyddiedig. Mewn rhai ardaloedd yr oedd rhif y Bedyddwyr mor lluosog, a'u dylanwad mor fawr, nes effeithiodd yr Wyl Flynyddol ar yr holl boblogaeth;—ond aeth yr adran ddigrefydd i gynnal yr wyl mewn gwledda a champau heb ddim o'r elfen grefyddol yn perthyn iddi. Ceir olion o'r arferiad hwn yn aros hyd heddyw mewn rhai parthau gwledig o'r Deheudir. Yn Llythyr Cymanfa Llanwennarth, Mai 22, 23, 1716, ceir y peth yn cael ei gymeradwyo yn swyddogol i'r holl Eglwysi, y rhai a gymhellir "i gadw'r dydd cyntaf o Awst, a'r Mercher cyntaf ymhob mis, er coffadwriaeth am ein gwaredigaeth ddiweddar." Dyddorol fyddai cael gwybod ymha nifer o Eglwysi yng Nghymru yn neillduol yn y De, y rhoddir arbenigrwydd o unrhyw fath ar naill ai'r dydd cyntaf neu'r Sul cyntaf yn Awst bob blwyddyn, ac ar y Mercher cyntaf ymhob mis, yn awr, ymhen yn agos i 200 mlynedd ar ol gyrru'r llythyr hanesyddol hwn allan.—B. G. E.