Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfrif amser, yr un yw yn ol cyfrif tragwyddoldeb; ac am bob cyfryw un gellir dweyd fel am Paul, pan aeth yn wr, efe roddodd heibio bethau bachgennaidd!

A dyna oedd hanes Ymneillduaeth. Yr oedd wedi bod yn y rhyfel. Yr oedd wedi sefyll i fyny i edrych ym myw llygad Angau. Aeth i'r rhyfel yn fachgennyn; daeth allan yn ddyn. Fel dyn dechreuodd feddwl am y dyfodol, a pharatoi ar ei gyfer. Camgymeriad peryglus yw tybied fod y rhyfel wedi peidio pan fo'r brwydrau mawr wedi mynd heibio. Yn aml ceir mwy o ddioddefaint personol ar ol, nag a geir yn ystod y brwydrau mawr. Dyma gyfnod manteisiol yr ymbleidwyr; gall y bydd y fyddin reolaidd wedi cael ei dadgorffori, ond erys y minteioedd ymbleidwyr (guerilla) am flynyddoedd!

A dyna fu profiad Ymneillduaeth. Fel dynion wedi gwynebu Angau ar hyd cyfnod tywyll Siarll II. a Iago II., pan gyhoeddwyd heddwch gan William III., a phan ddadgorfforwyd byddin reolaidd y gormeswyr a'r erlidwyr, gwyddai'r Ymneillduwyr fod yr ymbleidwyr yn aros, nas gallai'r Ethiop newid ei groen, na'r llewpard ei frychni. Cymerodd ganrif gyfan o amser iddo wneud—ac o ran hynny canfyddir ambell ysmotyn du ar yr Ethiop, ac ambell i frycheuyn ar y llewpard yn ein dyddiau ni, ymhen dros ddau can mlynedd wedi cyhoeddi'r heddwch!

Un o'r pethau cyntaf wnaeth yr Ymneillduwyr oedd ymuno â'u gilydd, yn un gallu cryf, gydag un amcan mawr—amddiffyn eu hiawnderau yn wladol a chrefyddol. Gallent wneud

hynny bellach mewn diogelwch. Nid oedd dim i'w rhwystro. Ni chosbai'r gyfraith hwynt mwyach am wneud. I'r gwrthwyneb, rhoddai anogaeth iddynt wneuthur. Fel y danghoswyd (tud. 186) torrodd Deddf Goddefiad ganolfur gwahaniaeth yr enwadau i lawr. Mor bell ag oedd a fynnai'r Presbyteriaid. a'r Anibynwyr yr oedd yn gydwastad â'r llawr; ac hyd yn oed. am y Bedyddwyr a'r Crynwyr nid oedd ond ambell ddarn o wal sych sigledig, yn aros. Ac am y darnau hynny, darparai Deddf Goddefiad fwlch yn y mur a alluogai'r Bedyddiwr i