osgoi bradbwll "Bedydd Babanod," a'r Crynwr i fynd yn ddiogel heibio i fagl y "Llw," (tud. 186)—er mwyn galluogi'r ddau i ymuno â'u gilydd ar faes eang, agored, diogel yr "Ymneillduwyr Protestanaidd,"—canys dyna'r maes swyddogol i'r hwn y'u troid oll gan y Ddeddf.
Wedi eu dysgu felly gan brofiad a deddf, ymunodd yr Ymneillduwyr â'u gilydd. Cymerodd Llundain y blaen. Sefydlwyd yno fath o Undeb Anghydffurfiol—rhagddelw'r dyddiau hynny o'r Cyngrair Anghydffurfiol Cenedlaethol a welir yn cael ei sefydlu yn ein dyddiau ni. Nid af yma i ymhelaethu ar yr Undeb hwnnw a'i waith. Digon yw dweyd ar hyn o bryd mai:
1. Undeb cyd-enwadol, gyda chyfeiriad anenwadol, ydoedd.
2. Undeb clerigol, cyfyngedig i'r gweinidogion, ydoedd ar y cychwyn.
3. Undeb yn meddu elfennau dadblygiad ydoedd—helaethodd ei syniadau, a daeth yn gynrychioliad o'r cynulleidfaodd ymhen amser.
4. Yr oedd tair gwyneb i'w amcanion, (a) yn grefyddol, trwy gyd-ymgynghoriadau ar faterion yn dal cysylltiad â'u gwaith; (b) yn wladol trwy amddiffyn cam y neb a ormesid; (c) yn elusennol a chenhadol trwy drysorfa ganolog at gynorthwyo achosion gweiniaid ac ymdrechion cenhadol.
5. Ffurfiwyd, naill ai fel canghennau o, neu yn meddu cysylltiad âg, Undeb Llundain, drefniant cyffelyb yn agos ymhob sir drwy'r deyrnas.
6. Mwynhaodd amryw ardaloedd yng Nghymru, yn y Gogledd a'r De, yn helaeth o ffrwyth llafur gwerthfawr yr Undeb hwn. Manylir ar rai o honynt ymhellach mewn pennod arall. Ar hyn o bryd nodaf ddau o Ddiwygwyr enwocaf Cymru, un yn y De a'r llall yn y Gogledd, a amddiffynnwyd yn effeithiol yn eu personau ac yn eu heiddo, gan y Pwyllgor Canolog hwn—y Bedyddiwr Caleb Evans yn y De, a'r Anibynnwr Lewis Rees yn y Gogledd.
7. Parhaodd mewn bod cyn, trwy, ac ar ol, cyfnod "Y Deffroad Mawr "—a chyn marw Howell Harris yr oedd mwy o nerth gwleidyddol o'r tu ol iddo yng Nghymru, mewn cyfartaledd, nag yn Lloegr—fel y profir eto.
Pennod ddisglaer yn hanes Ymneillduaeth yw eiddo'r Dirprwywyr Ymneillduol" (Dissenting Deputies). Gresyn na wyddai'r wlad fwy am dani. Byddai'n gofyn llyfr o faintioli hwn i wneud chwareu teg â'r hyn a wnaethant dros ryddid ac