egwyddorion sylfaenol Ymneillduaeth. Ceir rhai o brif linellau eu gwaith yn ei gysylltiad â Chymru, mewn pennod arall. Ond, tra'n cydgyfarfod ar yr un tir cyffredin, i drefnu eu materion cyffredin, ac i amddiffyn eu hawliau cyffredin, yn ystafell y "Dirprwywyr Ymneillduol," nid anghofiai'r Tadau hyn eu gwaith gartref. Gweithiai pob enwad yn ei faes ei hun, a phob eglwys yn ei chylch ei hun,—ac yr oedd bodolaeth y gyfundrefn ganolog yn asgwrn cefn ac yn adgyfnerthiad i'r enwad ac i'r eglwys.
Y cyntaf i wneud hyn oedd y Bedyddwyr. Yn nyddiau erledigaeth torrodd eu cyfundrefn i lawr, difodwyd y Gymanfa Gymreig, a gwasgarwyd eu heglwysi. Pan ganiataodd Deddf Goddefiad iddynt ail gyfarfod, gwnaethant. Adgrynhôdd aelodau gwasgaredig yr eglwysi at eu gilydd, ac adsefydlwyd eu Cymanfa. Yn 1689, cyfarfyddodd yn Llundain, pan y cynrychiolid tua 100 o eglwysi gwahanol. Yn y Gymanfa honno sefydlwyd Trysorfa Gynorthwyol—prif amcan yr hon oedd cario gwaith cenhadol ymlaen mewn ardaloedd newyddion, a sicrhau manteision addysg i ddynion ieuainc cymwys at waith y weinidogaeth.[1] Am ddeng mlynedd parhaodd yr Eglwysi Cymreig i ddanfon eu cynrychiolwyr i'r Gymanfa yn Lloegr. Yn y cyfamser enillasant nerth, a dechreuasant ddod yn allu cryf mewn rhai rhannau o'r wlad. Glynent eto at y dull cyntefig o gael eglwysi mawrion, yn cymeryd i fewn eangder helaeth o wlad. Yn 1696, yn Nghymanfa Bryste, cawn hwynt yn gofyn caniatad i rannu rhai o'r eglwysi am fod y cylch mor eang—a hynny yn cael ei ganiatau. Ymhen pedair blynedd wedyn, 1700, maent yn teimlo eu hunain yn ddigon cryf i allu torri eu cysylltiad â Lloegr, gan sefydlu Cymanfa arbennig i Gymru. Cynhaliwyd y gyntaf o honynt yn Llanwennarth. Am flynyddau cynhaliwyd y Gymanfa ar yn ail yn Llanwennarth ac Abertawe—yr hyn sy'n awgrymu mai yn y wlad cydrhwng y ddwy dref, y gorweddai prif nerth yr
- ↑ Dr. Rippon's History of the Baptist Academy at Bristol.