enwad y dyddiau hynny. Ond yr oedd yr ysbryd cenhadol a'u meddiannodd hanner can mlynedd cyn hynny, yn nyddiau John Myles, wedi gorfyw blynyddoedd erledigaeth;—ac os dilynir hanes yr enwad o'r naill flwyddyn i'r llall, gwelir yr eglwysi yn estyn allan eu canghennau ar bob llaw, y fam-eglwys yn magu merched cryfion, gwisgi, gweithgar, a'r merched hwythau yn eu tro yn dod yn fam-eglwysi, gan ail adrodd gwaith a phrofiad y rhiant. Yn wir, dyma un o nodweddion amlycaf y cyfnod hwn a'r blynyddoedd dilynol. Yr un ysbryd cenhadol symbylodd y genhadaeth i'r Gogledd mewn cyfnod diweddarach fyth, am yr hwn y cawn ymdrin eto. Yn 1704, gofynnwyd i'r eglwysi benodi cynrychiolwyr rheolaidd i fynd gyda'r gweinidogion i'r Gymanfa, a chyfarwyddwyd hwynt i ddanfon ymhlith y cyfryw, ddynion ieuainc a fernid yn gymhwys at waith y weinidogaeth, modd y caent hwythau ymgydnabyddu â gofynion a chylch eu dyledswyddau dyfodol. Nid gwaith diberygl oedd i'r dynion ieuainc hyn, canys cawn hwynt yn 1706 yn nod sylw y pressgang yn Abertawe, y rhai a fynnent eu cymeryd trwy orfodaeth i'w gwneud yn forwyr ar longau rhyfel. Daeth yr henuriaid i wybod am y cynllwyn; wedi ymgynghoriad preifat penderfynnwyd peidio cynnal y cyfarfod cyhoeddus, a gyrrwyd y bechgyn adref cyn gwybod o'r pressgang eu bod am ddianc! Cyn 1701, cyfarfodydd busnes yn unig oedd y cymanfaoedd—ni cheid pregethu ynglŷn â hwynt o gwbl; dichon fod a fynnai awyrgylch Lloegr â hyn. Ond nid cynt y daeth y Gymanfa i gartrefu yng Nghymru, nag y teimlodd naws y wlad, ac yn 1701 cawn bregethu yn dod yn rhan reolaidd a chyson o'r gweithrediadau. Gallwn ddeall y pwysigrwydd a ddylid ei roddi felly ar waith yr eglwysi yn danfon y gwyr ieuainc a fwriedid i'r weinidogaeth, i'r cymanfaoedd; i'r cyfryw yr oedd y Gymanfa yn Athrofa Bregethu. Erbyn 1705 yr oedd yr eglwysi wedi dysgu eu gwers mor dda, nes yr oeddent yn barod i ddwyn holl dreuliau eu cynrychiolwyr i'r Gymanfa bob blwyddyn. Erbyn 1708 yr oedd y Bedyddwyr mor gryf yng Ngorllewin Cymru fel, am y tro cyntaf erioed,
Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/212
Gwedd