y penderfynnwyd mynd â'r Gymanfa ymhellach na Chaerfyrddin. Rhydwilym, yn Sir Benfro, a ddewiswyd fel y man cyfarfod, ac o hynny allan hawlia Sir Benfro le amlwg yn hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Erbyn dyddiau Howell Harris yr oeddent wedi meddiannu'r wlad i'r fath raddau, nes y cawn offeiriaid Eglwys Loegr yn deisyf ar yr Efengylwr i ddod yno i bregethu i'w herbyn! Hyd 1708, yn Saesneg y dygid yr holl weithrediadau—ond y bregeth—ymlaen; yn 1708, gwnaed y Gymanfa yn Gymraeg o ran ei hiaith.
Yr un flwyddyn trefnwyd i godi trysorfa arbennig ymhob eglwys at reidiau'r tlodion. Hyd 1733, boddlonid ar un bregeth swyddogol ynglŷn â phob Cymanfa; o hynny allan cafwyd dwy. Yn aml byddai un o'r ddwy yn Saesneg—a chyfieithid hi bob yn frawddeg i'r Gymraeg gan un o'r gweinidogion Cymreig a safai wrth ymyl y Sais yn y pwlpud. Saith mlynedd wedi hynny gwnai Howell Harris yr un peth i George Whitefield pan ar ei deithiau efengylu yn y De; ac yn ddiweddarach, gwnai William Prichard, Clwchdernog, Mon, yr un gymwynas i John Wesley ar ei ymweliadau yno. Yn 1734, cawn y Gymanfa yn meddiannu tir newydd, ac yn perffeithio eu cynlluniau a'u trefniant. Yn 1739, cawn hanes gyntaf am danynt yn penodi "Canolwr" (Moderator) i'w Cymanfa. Ac yn 1740, mae eu gwaith wedi cynhyddu i'r fath raddau fel y teimlant dan reidrwydd i gael Cymanfa Chwarterol o dan, ac fel cynorthwy i'r, Gymanfa Flynyddol. O ddyddiau boreuaf ei hanes gofelid am yrru allan y "Llythyr Cymanfa" at yr holl eglwysi. Yn y llythyrau hyn ceir goleu cryf ar amgylchiadau crefyddol yr oes, ar y gwaith a wnai'r Gymanfa, ar gyflwr yr eglwysi a'u gwaith—ac nis gellir myned drwyddynt heb edmygedd dwfn am lafurus gariad Tadau Bedyddwyr Cymru, a'u hymdrechion i ledaenu egwyddorion yr Efengyl yn y wlad. Ai'r cenhadon â hanes, cwynion, a gofyniadau yr eglwysi i fyny i'r Gymanfa; deuent yn eu hol wedi cael eu nerthu gan gynghorion a chyfarwyddiadau eu brodyr, gan ddwyn cerydd, neu gyngor, neu anogaeth, fel y byddai'r