Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylchiadau yn galw—ac yn ychwanegol at hynny yn dwyn Llythyr y Gymanfa, epistolau apostolion yr oes at eglwysi'r wlad, y rhai a ddarllenid i'r cynulleidfaoedd yn yr holl eglwysi â'u canghennau. Nid oeddid am flynyddoedd lawer yn argraffu'r llythyr, ond wedi cytuno ar ei gynnwys, ffurf, a geiriad, neillduai'r brodyr i ystafell gyfleus, pob un â'i bapur, pen, ac inc yn barod, ac yna darllenid y llythyr iddynt, ac ysgrifennent hwythau ef allan fel dosbarth o blant yn ysgrifennu dictation yn yr ysgol.

Nid oedd cynllun yr Anibynwyr mor gyfundrefnol ag eiddo'r Bedyddwyr, ac felly mwy anhawdd yw dilyn eu hanes a dadblygiadau eu gwaith. Ar yr un pryd cawn ddigon o brofion eu bod mor llafurus, mor weithgar, ac mor llwyddiannus a'u brodyr. Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod gwaith y Bedyddwyr, o ran ei brif linellau, yn cael ei symbylu o'r Gymanfa—a chan fod cofnodion honno ar gael, ein bod yn gallu amgyffred, megys mewn un olygfa, holl faes eu llafur; tra'r Anibynwyr yn gweithio o bob eglwys unigol, drwy ei changhennau, mae yn rhaid edrych ar nifer o ddarluniau gwahanol cyn y gellir cael syniad am yr hyn a welir mewn un olygfa yn hanes y Bedyddwyr. Nid gweld yr Anibynwyr yn gweithio, ond gweld y gwaith ar ol iddo gael ei orffen, yr ydym. Os edrychir ar y Map Rhif 3, gwelir maes gwaith pob eglwys gyda'r Anibynwyr a'r Bedyddwyr. Wrth edrych. ar hwn ceir rhyw syniad am yr hyn a olygai gweinidogaeth fel yr eiddo, dyweder, Stephen Hughes, Hugh Owen, Henry Maurice, Edmund Jones, Lewis Rees, Phylip Pugh, ac eraill o'r rhai a lafuriasant yn ddiwyd a ffyddlon yn y cyfnod hwnnw. Trefnid i gael y Cymundeb ar gylch, y Sabath cyntaf yn y mis mewn un gangen, y Sabath nesaf mewn arall, ac felly yn y blaen; fel, mewn aml i Eglwys, yr oedd pob Sul yn Sabath Cymundeb;—ac hyd yn oed felly yr oedd rhai o'r canghennau lle na cheid cydeistedd o amgylch Bwrdd Swper yr Arglwydd ond unwaith mewn dau neu mewn tri mis. Gwelir wrth edrych ar y map fod Eglwysi eang eu cylch, a lliosog eu canghennau neu orsafoedd, i'w cael yn Siroedd Aberteifi,