Gwelir felly, a chymeryd Cymru fel cyfangorff, nad oes lawer i'w ddewis rhwng y cyfnodau hyn. Ond ni effeithiodd Y Diwygiad yn gyfartal dros y Dywysogaeth. Cyfyngwyd ef ymron yn gyfangwbl i'r De. O siroedd y De, Penfro a Chaerfyrddin a fu barotaf i groesawu'r Efengylwyr, sefydlwyd (fel y gwelir yn nes ymlaen) 42 o "Seiadau " yn y blaenaf, a 52 o Seiadau yn yr olaf—sef dwy ran o bump o'r cyfanrif yng Nghymru. Yma, ynte, os yn rhywle, y rhaid edrych am effaith gwaith Y Diwygwyr a'r Diwygiad yn adgyfodi Ymneillduaeth farw o'i bedd. Ond beth yw'r ffaith? Cymerwn 35 mlynedd cyn ac ar ol y Diwygiad.
| Yn y cyfnod cyn Y Diwygiad sefydlwyd 7 Eglwys | yn sir Benfro. |
| Yn y cyfnod ar ol Y Diwygiad sefydlwyd 2 Eglwys |
| Yn y cyfnod cyn Y Diwygiad sefydlwyd 8 Eglwys | yn sir Gaerfyrddin. |
| Yn y cyfnod ar ol Y Diwygiad sefydlwyd 3 Eglwys |
Os dywedir nad lliosogrwydd eithr gweithgarwch Eglwysi yw safon mesur eu bywydoldeb, yr ateb yw na cheir prawf gwell o weithgarwch, ac mewn canlyniad o fywydoldeb, unrhyw fudiad na'i lwyddiant i blannu achosion neu ganghennau newydd a pharhaol. A hyn a wnaeth Anibynwyr Cymru yn y cyfnod yn yr hwn y tybir mai gallu naill ai wedi, neu yn, marw ydoedd.
Na, nid adgyfodi Ymneillduaeth Cymru o'r bedd, ac nid ei hachub rhag tranc, a wnaeth Y Diwygiad. Cawn weled yn y man pa beth a wnaeth.
Ond a oedd cynnydd yn rhif yr aelodau? Gadewch i ni weled.
Yr oedd Phylip Pugh yn gallu fforddio rhoi llythyrau gollyngdod i 55 o'i aelodau ar yr un pryd i fynd at ei ddisgybl Daniel Rowlands i Eglwys Llangeitho. Yn ystod ei weinidogaeth bedyddiodd 680 o blant ei gynulleidfa. Yn 1728 derbyniodd 11; 34 yn 1729; 16 yn 1730; 36 yn 1731; 21 yn 1732; 26 yn 1733; 29 yn 1734; 16 yn 1735; 26 yn 1736; 15 yn 1738; 30 yn 1739; 13 yn 1740; 18 yn 1741.[1] Gwelir yma gynnydd cyson cyn ac ar ol dechreu'r Diwygiad yng nghylch ac yn ystod gweinidogaeth Daniel Rowlands ei hun. Ond ni chyfyngid y gweithgarwch i gylch gweinidogaeth na sir Phylip Pugh. Yn 1714 cawn hanes am ddiwygiad grymus ymhlith yr Anibynwyr mewn rhannau ereill o Sir Aberteifi a chyffiniau Sir Gaerfyrddin, a llaweroedd yn cael eu hychwanegu at yr Eglwysi. Yn y flwyddyn 1720 dechreuodd hen Eglwys Penmain adfywio, ac ymhlith y dychweledigion yr oedd nifer o ddynion ieuainc a ddaethant wedi hynny yn wasanaethgar fel gweinidogion mewn eglwysi eraill. Nid cynnydd sydyn, ond graddol, ydoedd, parhaodd am 19 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ychwanegwyd dros gant at yr aelodaeth.[2] Rhwng 1718 a 1726 ychwanegwyd hanner cant at aelodaeth Pant Teg. O fewn 22 mlynedd ar ol 1724 ychwanegwyd cant at aelodaeth Capel Isaac, ac yn y flwyddyn 1735, cyn clywed son yno am Howell Harris, derbyniwyd 21.[3] Gwelir mai nid mewn unrhyw un