Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir nac unrhyw un flwyddyn y ceid y profion sylweddol hyn o weithgarwch yn cael ei goroni â llwyddiant ymhlith yr Anibynwyr.

Os trown at Eglwysi'r Bedyddwyr, cawn gyffelyb fanylion yn yr adroddiadau a ddygid gan y cenhadon i'r Gymanfa. Yn Eglwys Cilfowyr—Cilcam yn Sir Benfro, bedyddiwyd 45 o 1700 hyd 1704; 6 yn 1704; 20 yn 1705;" ac ychwanegiadau pwysig bob blwyddyn ar ol hynny am amser maith." Yng Nghofnodion Cymanfa 1720 cawn fod "ychwanegiadau mawr at rai o'r Eglwysi;" cyfeiria llythyr 1721 at "sefyllfa lewyrchus" yr Eglwysi; yn 1724" ychwanegwyd llawer at rai o'r Eglwysi;" yn 1726 a 1727 profodd Blaenau a Hengoed y tywalltiadau; yr un flwyddyn "ychwanegwyd llawer at Eglwys Penyfai;" ac hysbyswyd fod drws mawr ac effeithiol wedi ei agor mewn mannau i bregethu'r Efengyl." Yn 1728 yr oedd "mwyafrif yr Eglwysi yn llewyrchus," yn 1731 "amryw wedi eu hychwanegu at lawer o'r Eglwysi;" yn 1735 sonnir am Eglwys Glandwr, "Ymdaenodd yr Eglwys yn rhyfedd o gylch yr amser hynny, ac ychwanegwyd llawer atynt; aethant ymlaen yn llwyddiannus gan ledu eu pabell ac estyn eu cortynnau, gan dorri allan ar y dde a'r aswy am rai blynyddoedd."

Gwelir felly mai nid diwaith, mai nid difywyd, ac mai nid di-lwyddiant, oedd Ymneillduaeth Cymru, ymhlith na'r Bedyddwyr na'r Anibynwyr, yn y cyfnod cyn Y Deffroad Mawr.

Os cymerwn olwg ar wedd ymarferol crefydd, a mesur gweithgarwch yr Eglwysi yn y cyfnod wrth eu hymdrechion i godi capeli, cawn y ffeithiau canlynol:

O 1689 hyd 1735 adeiladodd y Bedyddwyr 13 o gapeli mewn pedair sir. <poem> Sir Gaerfyrddin: Felinfoel, Pencoed, a Ffynnon Henry—3. Morgannwg: Ilston, Llanharan—Hengoed, a Penyfai—3. Mynwy: Llanwennarth, Blaenau, a Penygarn (Pontypool)—3. Penfro: Rhydwilym, Tygwyn, Cilfowyr, Llangloffan, a Ffynnon-well-na-buwch—4.

Bu'r Anibynwyr yn fwy ymdrechgar fyth. Yn yr un cyfnod adeiladasant 44 o gapeli:—

Aberteifi: Horeb, Llechryd, a Rhydybont—3. Brycheiniog: Troedrhiwdalar, Llanwrtyd, Aberhonddu, Llangynidr, a Beilihalog—5. Caerfyrddin: Cefnarthen, Capel Isaac, Henllan, Llanedi, Pencader, Abergorlech, Llanybri,[1] Trelech, Pant Teg, Rhydyceisiaid, Capel Seion, a Capel Iwan—12. Caernarfon: Pwllheli, a Capel Helyg—2. Dinbych: Gwrecsam—1. Maesyfed: Maesyronnen, Rhaiadr, Gore, a Caebach Llandrindod—4. Morgannwg: Capel y Drindod, Caerdydd; Ebenezer, Abertawe; Ynysgau, Merthyr; Castellnedd; Penbont ar Ogwy; a Gellionnen—6. Mynwy: Penmain; Heolyfelin, Casnewydd; ac Abergafenni—3. Penfro: Albany, Hwlffordd; Brynberian, Trewyddel, Penfro, Glandwr, Llandilo, a Rhosycaerau—7. Trefaldwyn: Llanfyllin—1.


  1. Meddiannu Eglwys y Plwyf a wnaeth Anibynwyr Llanybri, drwy ganiatad yr awdurdodau Eglwysig, gan nad oeddid yn cynnal gwasanaeth yno! (Erasmus Saunders "State of Religion in the Diocese of St. David's.")