Dyna gyfrif gwaith y gallasai unrhyw enwad fod yn falch o hono. Dengys Cofnodion y Cymanfaoedd ac Eglwysi unigol fod nifer o'r gweinidogion yn efengylu ar hyd a lled y wlad, gan dynnu torfeydd i'w gwrando. Nid peth eithriadol oedd gweled torf o 4000 i 5000 o wrandawyr adeg Cymanfa; ac mewn cyfnod diweddarach ceid o 9000 i 10,000 yn mynychu Cymanfaoedd y Bedyddwyr. Yr oedd poblogrwydd personol rhai o'r pregethwyr yn fawr iawn. Cawn hanes am y duwiolfrydig a'r efengylaidd Enoch Francis, gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn, ei fod yn tynnu'r torfeydd ar ei ol pan yn teithio'r wlad i bregethu. Pan fu farw yn 1739 cafodd gladdedigaeth tywysog, a gwlad o bobl yn hebrwng ei weddillion i'r bedd. Cariwyd y corff ar elor ar ysgwyddau dynion ugain milltir o ffordd, o Gastell Newydd Emlyn i Gilfowyr. Yr oedd yr orymdaith yn pasio trwy ddeg o blwyfi gwahanol, a threfnwyd fod trigolion pob plwyf i gael yr anrhydedd o gludo'r corff o'r naill derfyn i'r llall i'w plwyf cartrefol hwy eu hunain. Tua'r flwyddyn 1730, ychydig flynyddoedd cyn i Howell Harris ymddangos ar y maes, disgynnodd yr Ysbryd gyda nerth ar nifer o weinidogion ieuainc perthynol i'r ddau enwad mewn gwahanol rannau o'r Dywysogaeth, a dechreuodd tân y diwygiad gael ei gynneu. Rhai o'r bobl hyn, megys Miles Harry'r Bedyddiwr o Bontypwl, a'i gymydog tanllyd Edmwnd Jones yr Anibynnwr, o'r un lle, a wahoddasant Howell Harris i ddod trosodd i'w cynorthwyo, ac i chwythu tân y diwygiad yn eu heglwysi yn fflam. Am alluoedd y gweinidogion Ymneillduol yn y cyfnod hwnnw, boed eu gelynion yn dystion.
Dyma ddywed ysgrifennydd Eglwysig adnabyddus yn 1715:—"I Dduw y bo'r diolch mae goleuni'r Efengyl yr awrhon yn llewyrchu cyn ddis-gleiried yng Nghymru ag mewn odid wlad arall; mae mwy o lyfrau duwiol defnyddiol yn argraffedig; ac amlach, ac ond antur, well pregethwyr yr awrhon yn eu plith nag a fu mewn un oes ys mwy na mil o flynyddoedd.[1]
- ↑ Ceir yr uchod yn y Rhagymadrodd i "Gwirionedd y grefydd Gristionogol gan Hugo Grotius a gyfieithwyd gan y Parch. Edward Samuel, gynt Person Bettws Gwerfil Goch. Yr Ail Argraffiad gan Dafydd Rogers." Arwyddir y Rhagymadrodd gan "E. S. Bettws Gwerfil Goch, Hydref 25, 1715;" ugain mlynedd cyn ymddanghosiad Howel Harris.