ATODIAD I PENNOD XVI.
YSTADEGAETH Y CYFNOD A'R CYHUDDIAD YN ERBYN DR. REES.
O ddyddiau'r Brenin Dafydd hyd eiddo Mr. Thomas Gee, yr ydys wedi profi mai gwaith cynnil, ac mewn rhyw ystyr, peryglus, yw cyfrif y bobl. Ac eto, ar adegau, gall fod yn ddyledswydd orfodol. Felly yn ddiameu y teimlodd y Dr. John Evans hi pan, ar farwolaeth Anne, yr ymgymerodd a'r gorchwyl diddiolch o gasglu ystadegau am nerth Ymneillduaeth yng Nghymru a Lloegr.
Galwed y darllenydd i'w gof yr amgylchiadau. Yr oedd elfennau gwrthwynebol rhyddid a chaethiwed, yn wladol a chrefyddol, erbyn dyddiau Anne wedi crisialu i ffurf Pleidiau Gwleidyddol, a'r llinell fin cydrhyngddynt mor amlwg, o leiaf, ag yw yn ein dyddiau ni. Ysbryd gormes a chaethiwed a symbylai'r Toriaid cyntefig; egwyddorion goddefiad, os nad rhyddid, a lywodraethai yng nghynghorion y Whigiaid cyntefig. Rhyddid cydwybod yn ei gysylltiad â hawliau dinesig oedd y cwestiwn o amgylch yr hwn y troai ymdrechion y ddwyblaid. Rhaid cofio ar yr un pryd mai ystyriaethau o gyfleustra (expediency) yn hytrach nag o egwyddor, sydd yn aml yn penderfynu cwrs gwleidyddiaeth. Er fod llawer o arweinwyr y Whigiaid y dyddiau hynny yn ddigon cyd-wybodol ac egwyddorol yn eu hawydd i ryddhau y cadwynau a gaethiwent Ymneillduwyr, ac eraill yn amharod i'w tynhau, yr oedd llawer iawn, o bosibl y mwyafrif yn eu plith, yn gyfryw ag a fuasent lawn mor barod i wrando ar eu hunan-les ag a fyddent i gael eu symud gan ystyriaethau o iawnder. Pe gellid profi iddynt fod y ddau, hunan-les a iawnder, yn rhedeg ar hyd yr un llinell, ac y byddai sicrhau y naill yn diogelu'r llall, rhoddid iddynt y cymhelliad cryfaf oedd yn bosibl i wneuthur yr hyn oedd yn iawn. A hyn a wnaeth Ymneillduwyr yr oes honno ceisio profi i arweinwyr y Whigiaid mai mantais iddynt hwy a fyddai gwneud chwareu teg a'r Ymneillduwyr. Aethant at y gwaith mewn modd tra ymarferol, sef Cyfrif y Bobl, a dangos mewn du a gwyn beth oedd nerth Ymneillduaeth mewn gwahanol rannau o'r deyrnas,—ac, fel dynion call, yn rhoi'r bennod a'r adnod i brofi'r pwnc, a rhoi'r cyfleustra felly i'r gwleidyddwr i brofi cywirdeb gosodiadau a ffigyrrau'r crefyddwr.
Nid dyma'r ymgais cyntaf a wnaed i gael allan y ffigyrau. Yn 1669, gyrrodd Archesgob Caergaint orchymyn allan i'w glerigwyr gyfrif yr Ymneillduwyr,—fel y gwnaeth Esgob Bangor yn ei esgobaeth yntau ymhen can mlynedd wedi hynny. Yn 1675, gyrrodd yr enwog Henry Maurice, gweinidog Anibynwyr Sir Frycheiniog, grynhodeb o ystadegau'r Ymneillduwyr yng Nghymru i Mr. Edward Terrill ym Mryste. Yn 1772 a 1776, gwnaeth y Parch. Josiah Thompson, gweinidog llafurus gyda'r Bedyddwyr, ymgais cyffelyb i eiddo Dr. John Evans yn 1715, i ddarganfod nerth Ymneillduaeth y deyrnas, ac i gyffelyb amcan, sef er mwyn sicrhau hawliau dinesig pellach i'r Ymneillduwyr drwy ddangos eu nerth gwleidyddol. Heb fynd i feichio'r tudalennau hyn â phentwr o ffigyrrau—mae'r ol o'r ystadegau uchod eto ar gael, rhai mewn argraff ac eraill mewn hen lawysgrifau—digon yw dweyd yma ei bod yn amlwg i'r neb a gymero'r drafferth o'u cymharu'n ofalus â'u gilydd, eu bod, er yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd mewn rhai manylion (yn gymaint a'u bod wedi cael eu cymeryd ar adegau a than amgylchiadau gwahanol), eto yn gyson â'u gilydd. Mae ffigyrrau Dr. John Evans yn ffitio yn naturiol i'r gyfres; yn cael eu hategu gan dystiolaeth gadarnhaol ystadegau casgledig blaenorol, gan ffeithiau Swyddfa'r Cofnodion, gan gofnodion Cymanfaoedd Bedyddwyr Cymru, gan yr hyn a wyddis—ac a brofwyd yn y bennod hon—am sefyllfa a chynnydd Ymneillduaeth Cymru, a chan ddadblygiadau gwleidyddol y