dylanwadol ymhob rhan o'r deyrnas er sicrhau cywirdeb i'w ystadegaeth. Ymhlith eraill a'i cynorthwyodd yng Nghymru cawn Mri. Lewis Lloyd, Barrington, Bendish, a'r Parch. Joseph Stennett, D.D. Mae'n anhawdd penderfynnu i ba raddau yr oedd Daniel Neal yn gysylltiedig âg ef yn yr ymdrech hwn i gasglu ystadegau. Ond pa un ai mewn cydweithrediad â, neu yn anibynnol ar, Dr. John Evans y gweithredai Neal, sicr yw ddarfod iddo yntau hefyd gasglu ffeithiau oddiwrth Eglwysi'r Bedyddwyr—ac mae ei ffigyrrau yntau yn cydgordio, er nad yn hollol yr un fath, ag eiddo Dr. John Evans. Yn llyfrau cofnodion rai o Eglwysi'r Bedyddwyr y cyfnod hwnnw, dywedir fod "cais wedi dod oddiwrth y Llywodraeth am yr ystadegau o'r Eglwys" honno, yr hyn a'i gwna yn dra thebygol fod yr ymchwiliad a wnaeth Mr. Neal yn gwisgo gwedd swyddogol.
Eglura'r pethau uchod y gofal a'r manylwch a gymerwyd gyda'r ystadegau hyn. Eglura, hefyd, paham y rhoddir, yn yr ystadegau hyn, fanylion am safle fydol a chymdeithasol yr Ymneillduwyr, yn hytrach na'u cyflwr ysbrydol—fel y ceisiodd y Cynghorwyr Methodistaidd " wneud ymhen 30 mlynedd wedyn. Er engraifft, gan gymeryd Eglwys yr Anibynwyr yn Abergafenni, dywed fod yno "1 esquire, 16 gentlemen, 7 yeomen, 63 tradesmen, 1 farmer, 7 labourers, 13 votes for the county of Monmouth, 3 for Brecknockshire, 1 for Glamorganshire, 1 for Herefordshire, 23 for the borough of Monmouth, 3 for Bristol, and 3 for Hereford." Am Eglwys y Bedyddwyr yn Cefnhengoed. Sir Forgannwg, dywed fod yno 2 gentlemen, 40 yeomen, 12 tradesmen, 85 farmers, 140 labourers, 20 votes for the county of Glamorgan, 22 for the county of Monmouth, and 60 for the boroughs." Am Eglwys y Presbyteriaid yn Ninbych dywed, "1 member worth between £4000 and £5000, and 3 worth £500 each, the rest tradesmen and farmers, no beggars, 8 votes for the county, and 12 for the borough." Am Eglwys Newmarket, yn Sir Fflint, dywed, 1 member worth between £14,000 and £15,000, 1 vote for the county, and 3 for the borough." Ni cheir yr holl fanylion hyn am bob eglwys. Yn y dyddiau hynny, fel yn ein dyddiau ninnau, yr oedd ambell weinidog neu ddiacon yn fwy parod na rhai o'i frodyr i gymeryd trafferth gydag ystadegaeth ei eglwys. Ond gan gymeryd Sir Fynwy lle y ceir y manylion lawnaf am yr holl eglwysi, gweithiai cyfanrif yr ystadegau allan fel hyn:—
Tri yswain, 58 boneddwr, 285 rhydd-ddaliadwr, 243 masnachwr (neu grefftwr), 234 ffarmwr, 391 labrwr. Gwna hyn gyfanrif o 1214,—ac o'r rhai hyn yr oedd 500 yn meddu pleidleisiau mewn etholiadau seneddol.[1]
Dyrry Dr. John Evans rif y gwrandawyr ymhob eglwys (caf sylwi eto pa beth a olygai wrth wrandawyr"). Gan gymeryd cyfanrif pob sir gweithia allan fel hyn:—
Aberteifi, 1250; Brycheiniog. 1770; Caerfyrddin, 5550; Caernarfon, 250; Dinbych, 440; Fflint, 30; Maesyfed, 2150; Meirionnydd, 150; Morgannwg, 3600; Mynwy, 2991; Penfro, 1400; Trefaldwyn, 420. Gwna hyn gyfanrif i Gymru o ychydig dros 20,000.
- ↑ Yr oedd ffeithiau fel hyn yn llawer mwy tebyg o argyhoeddi'r gwleidyddwyr nag a fuasai dweyd pa nifer oedd "dan y ddeddf," "dan draed amheuon,' yn ddyfal geisio," neu "wedi eu cyfiawnhau." Mewn gwirionedd, yr oedd amcan ystadegaeth Dr. John Evans mor hollol wahanol i eiddo adroddiadau "Y Cynghorwyr Methodistaidd " 30 mlynedd wedi hynny, fel mai ynfydrwydd neu blentyneiddiwch yw ceisio cymharu'r naill a'r llall. Byddai yr un mor rhesymol cymharu adroddiad blynyddol capel Ymneillduol heddyw a'r cofrifiad mae'r Llywodraeth ar fedr ei gymeryd o boblogaeth y deyrnas!